L'Alouette
Drama gan Jean Anouilh a seilwyd ar fywyd Jeanne d'Arc yw L'Alouette (Yr Ehedydd). Mae Jeanne yn ufuddhau i Lais Duw ac felly yn dod i arwain y Ffrancod ac achub ei gwlad rhag y Saeson. Wedi syrthio i ddwylo'r Saeson mae hi'n gwrthod tynnu ei geiriau yn ôl. Cafodd ei llosgi wrth y stanc.
Enghraifft o'r canlynol | gwaith llenyddol |
---|---|
Awdur | Jean Anouilh |
Cyhoeddwr | éditions de la Table ronde |
Iaith | Ffrangeg |
Dyddiad cyhoeddi | 1953 |
Genre | theatr |
Lleoliad y perff. 1af | Paris |
Dyddiad y perff. 1af | 1953 |
Cyfansoddwr | Leonard Bernstein |
Trosiad
golyguMae trosiad Cymraeg dan yr enw Yr Ehedydd gan Kathleen Parry yn y gyfres Dramâu'r Byd (Gwasg Prifysgol Cymru, 1976).