Cyfres Dramâu'r Byd
(Ailgyfeiriad o Dramâu'r Byd)
Cyfres o ddramâu gorau'r byd yw'r cyfieithiadau i'r Gymraeg yn Cyfres Dramâu'r Byd a gyhoeddwyd gan Gwasg Prifysgol Cymru o 1969 i 1991. Prif olygydd y gyfres oedd yr Athro Gwyn Thomas.
Mae cyfresi eraill hefyd gan Wasg Prifysgol Cymru fel Cyfres Y Ddrama yn Ewrop yn ogystal â Cyfres Dramâu Aberystwyth gan CAA a Cyfres yr Academi gan yr Academi Gymreig.
Rhestr o deitlau'r Gyfres Dramâu'r Byd a'r Gyfres Y Ddrama yn Ewrop
golygu- 1969 Diwéddgan, cyfieithiad gan Gwyn Thomas o Fin de Partie Samuel Beckett
- 1970 Wrth aros Godot, cyfieithiad gan Saunders Lewis o En attendant Godot Samuel Beckett
- 1972 Oidipus Frenin, un o'r Tair Drama Thebaidd gan Soffocles (497 BC - 406 BC) - cyfieithiad Euros Bowen (rhan o gyfres Y Ddrama yn Ewrop)
- 1976 Yr Ehedydd cyfieithiad gan Kathleen Parry o L'Alouette Jean Anouilh
- 1978 Caligula gan Albert Camus a gyfieithwyd i'r Gymraeg gan Emyr Tudwal Jones a Prys Morgan.
- 1979 Gwahoddiad i Ginio, cyfieithiad gan John H. Watkins o Le Rendez-vous de Senlis Jean Anouilh
- 1979 Caeëdig Ddôr, cyfieithiad gan Richard T. Jones o Huis clos Jean-Paul Sartre
- 1979 Oidipus yn Colonos, gan Soffocles, cyfieithiad Euros Bowen
- 1984 Electra, gan Soffocles, cyfieithiad Euros Bowen
- 1991 Miss Julie gan August Strindberg cyfieithwyd gan Glenda Carr a Michael Burns