Jeanne d’Arc

(Ailgyfeiriad o Jeanne d'Arc)

Merch o blith gwerin Ffrainc a gafodd ddylanwad mawr ar gwrs y Rhyfel Can Mlynedd rhwng Ffrainc a Lloegr oedd Jeanne d'Arc, weithiau Siwan o Arc (c. 1412 - 30 Mai, 1431).

Jeanne d’Arc
GanwydUnknown Edit this on Wikidata
c. 6 Ionawr 1412 Edit this on Wikidata
Domrémy-la-Pucelle Edit this on Wikidata
Bu farw30 Mai 1431 Edit this on Wikidata
o marwolaeth drwy losgi Edit this on Wikidata
Rouen Edit this on Wikidata
DinasyddiaethTeyrnas Ffrainc Edit this on Wikidata
Galwedigaethperson milwrol Edit this on Wikidata
Dydd gŵyl30 Mai Edit this on Wikidata
TadJacques d'Arc Edit this on Wikidata
MamIsabelle Romée Edit this on Wikidata
Gwobr/auGwobr Ysgol Filwrol Saint-Cyr Edit this on Wikidata
llofnod
Jeanne d’Arc yng ngwarchae Orleans

Bywgraffiad

golygu

Yn 1428, roedd y Saeson yn gwarchae ar ddinas Orléans yng nghanolbarth Ffrainc. Yn 1429, perswadiodd merch ieuanc o blith y werin, Jeanne d’Arc, y Dauphin, Siarl VII, i’w gyrru i godi’r gwarchae, gan ddweud ei bod wedi cael gweledigaeth gan Dduw yn gorchymyn iddi yrru’r Saeson allan. Llwyddodd i godi’r gwarchae o fewn naw diwrnod, ac ysbrydolodd y Ffrancwyr i gipio nifer o gaerau’r Saeson ar hyd Afon Loire. Yn fuan wedyn, cafodd y Ffrancwyr fuddugoliaeth dros y Saeson ym Mrwydr Patay. Coronwyd y Dauphin yn Reims fel Siarl VII, gyda Jeanne yn ei arwain i'w goroni.

Cymerwyd Jeanne d’Arc yn garcharor gan y Bwrgwyniaid mewn ysgarmes ger Compiègne yn 1430, a’i gwerthu i’r Saeson. Rhoddasant hwy hi ar ei phrawf o flaen llys eglwysig, a'i chafodd yn euog o heresi. Dienyddiwyd hi trwy losgi. Pum mlynedd ar hugain yn ddiweddarach, cyhoeddodd Pab Calistus III ei bod yn ddieuog.

Gwaddol

golygu

Ysbrydolodd Jeanne d'Arc loedd Ffrainc Rydd yn ystod yr Ail Ryfel Byd pan fabwysiadodd y mudiad i wrthsefyll Llywodraeth Vichy Ffrainc a lluoedd yr Almaen Natsiaidd. symbol Jeanne, Croes Lorraine fel eu arwyddlun.

Cyfeiriadau

golygu
   Eginyn erthygl sydd uchod am Ffrancwr neu Ffrances. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.