Arlunydd o Ffrainc oedd Léon-Joseph-Florentin Bonnat (20 Mehefin 18338 Medi 1922) sydd yn nodedig am ei bortreadau ac am fod yn athro i nifer o arlunwyr enwog.

Léon Bonnat
Hunanbortread gan Léon Bonnat (1855)
GanwydLéon Joseph Florentin Bonnat Edit this on Wikidata
20 Mehefin 1833 Edit this on Wikidata
Baiona Edit this on Wikidata
Bu farw8 Medi 1922 Edit this on Wikidata
Monchy-Saint-Éloi Edit this on Wikidata
DinasyddiaethFfrainc Edit this on Wikidata
Alma mater
  • École nationale supérieure des Beaux-Arts Edit this on Wikidata
Galwedigaetharlunydd, gwneuthurwr printiau, casglwr celf Edit this on Wikidata
Cyflogwr
  • École nationale supérieure des Beaux-Arts Edit this on Wikidata
Adnabyddus amPortrait of Isaac Dignus Fransen van de Putte (1822-1902). Colonial Minister (1863-66, 1872-74), Armand Fallieres, Interior of the Sixtine chapel Edit this on Wikidata
Arddullportread (paentiad), peintio lluniau anifeiliaid, peintio genre, peintio hanesyddol, celf tirlun, noethlun, bywyd llonydd, portread Edit this on Wikidata
Mudiadacademic art Edit this on Wikidata
Gwobr/auPrix de Rome, Urdd Teilyngdod am Wyddoniaeth a Chelf, Uwch Groes ar Orchymyn Sifil Alfonso XII, Uwch Groes y Lleng Anrhydedd Edit this on Wikidata

Ganed ef yn Baiona yng ngogledd Gwlad y Basg, yng nghyfnod Brenhiniaeth y Gorffennaf. Astudiodd dan Federico Madrazo ym Madrid a Léon Cogniet ym Mharis. Gwelir dylanwad celf Faróc Sbaenaidd yn ei baentiadau crefyddol cynnar.[1]

Ym 1875 cychwynnodd ar ei gyfres o ryw 200 o bortreadau o Ewropeaid ac Americanwyr amlwg, yn eu plith Adolphe Thiers, Victor Hugo, Hippolyte Taine, Louis Pasteur, a Jean-Auguste-Dominique Ingres. Yn y rhain, gwelir dylanwad Diego Velázquez a'r arlunwyr realaidd Sbaenaidd.

Penodwyd Bonnat yn athro paentio yn yr École des Beaux-Arts, Paris, ym 1888, ac yn gyfarwyddwr yr ysgol honno ym 1905. Ymhlith ei ddisgyblion oedd Thomas Eakins, Gustave Caillebotte, ac Henri de Toulouse-Lautrec. Bu farw ym Monchy-Saint-Éloi, Oise, yn 89 oed.[1]

Cyfeiriadau

golygu
  1. 1.0 1.1 (Saesneg) Léon Bonnat. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 16 Hydref 2021.