Diego Velázquez
Arlunydd o Sbaen oedd Diego Rodríguez de Silva y Velázquez (6 Mehefin 1599 – 6 Awst 1660). Roedd yn un o arlunwyr pwysicaf ei gyfnod; ei gampwaith yw Las Meninas (1656). Bu'n ddylanwad pwysig ar arlunwyr diweddarach megis Pablo Picasso a Salvador Dalí. Ymhlith ei weithiau pwysicaf y mae: Gwener yn y Drych (Sbaeneg: La Venus del espejo) a Chwedl Arachne (Catalaneg: Les filadores).
Diego Velázquez | |
---|---|
Ganwyd | Diego Rodríguez de Silva y Velázquez 6 Mehefin 1599 Sevilla |
Bedyddiwyd | 6 Mehefin 1599 |
Bu farw | 6 Awst 1660 Madrid |
Dinasyddiaeth | Sbaen |
Galwedigaeth | arlunydd, arlunydd, artist |
Swydd | arlunydd llys, Great Lodging Master of the Palace |
Adnabyddus am | The Triumph of Bacchus, Las Meninas, Apollo in the Forge of Vulcan, Christ in the House of Martha and Mary, The Surrender of Breda, The Waterseller of Seville |
Arddull | portread (paentiad), paentiad mytholegol, peintio hanesyddol, paentiadau crefyddol, portread, architectural painting, celf genre, celf tirlun, noethlun, figure, animal art, celfyddyd grefyddol, bywyd llonydd |
Mudiad | Baróc |
Tad | João Rodrigues da Silva |
Mam | Jerónima Velázquez |
Priod | Juana Pacheco |
Plant | Francisca de Silva Velázquez y Pacheco |
Gwobr/au | Urdd Santiago |
Ganed ef yn Sevilla, Andalucía, Sbaen. Roedd yn fab i Juan Rodríguez de Silva, cyfreithiwr o dras Iddewid-Potiwgeaidd. Astudiodd arlunwaith dan Francisco de Herrera, yna pan oedd tua 12 oed aeth yn brentis i Francisco Pacheco yn Sevilla, lle bu am bum mlynedd. Priododd Juana Pacheco yn 1618; cawsant ddwy ferch.
Aeth i Madrid yn Ebrill 1622, gyda llythyr yn ei gyflwyno i Don Juan de Fonseca, caplan y brenin. Bu farw Rodrigo de Villandrando, prif arlunydd y llys brenhinol, yn Rhagfyr 1622. Cafodd Velázquez ei swydd wedi iddo wneud llun o'r brenin Felipe IV, a chafodd arian i symud ei deulu i Madrid. Bu'n byw yno am y gweddill o'i fywyd, heblaw am flwyddyn o hanner yn byw yn yr Eidal o 1629. Cafodd hyn gryn ddylanwad ar ei arddull. Bu ar ymweliad a'r Eidal eto yn 1649, gan ddychwelyd yn 1651.
Dylanwad
golyguDylanwadodd Velázquez yn aruthrol ar y paentwyr a ddaeth ar ei ôl. Caiff ei adnabod fel y prif ddylanwad ar Édouard Manet - ffaith sy'n goblyn o bwysig pan ystyriwn mai Manet yw'r brif bont rhwng realaeth ac argraffiadaeth (impressionism). Galwodd Manet ef yn "baentiwr y paentwyr" a broliodd yn fwy na dim ei ddefnydd o'i frws cyflym, dewr mewn cyfnod Barocaidd o ddefnydd cynnil, perffaith, academaidd. Gellir gweld ei ddylanwad yn y modd y cafodd ei waith Gwener yn y Drych ei gopio, yn enwedig gan Édouard Manet yn ei baentiad olew Yr Olympia, yn 1863 ac arlunwyr eraill megis Jean Auguste Dominique Ingres a Paul-Jacques-Aimé Baudry.[1]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Prater, tud. 114.