Lôn Goed
Lôn wledig yn Eifionydd, Gwynedd, yw'r Lôn Goed. Ceir sawl cyfeiriad ati gan lenorion Cymraeg, e.e. gan y bardd R. Williams Parry. Fe'i henwir ar ôl y ddwy res o goed ar ochr y lôn.[1]
Math | llwybr |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Gwynedd |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 52.91452°N 4.322494°W |
Mae'r Lôn Goed yn cychwyn ym mhentref Afon Wen, ar y briffordd A497 tua hanner milltir i'r de o Chwilog a thua hanner y ffordd rhwng Cricieth a Pwllheli, lle mae'r afon o'r un enw yn cyrraedd y môr. Cafodd ei chreu rhwng 1819 a 1828 gan y goruchwylwr lleol John Maughan drwy ystâd Talhenbont (Plas-hen) er mwyn hwyluso cludo calch a mawn. Mae'n rhedeg am tua 5 milltir i gyfeiriad y gogledd o Afonwen i Hendre Cennin (Mynydd y Cennin).[1]
Cyfeirir ati yn lleol fel "Lôn Môn" hefyd, llygriad o'r enw Maughan.
Yn ei gerdd 'Eifionydd' mae R. Williams Parry yn clodfori harddwch a "llonydd gorffenedig" y Lôn Goed gan ei gwrthgyferbynu â "hagrwch Cynnydd".[2] Cyfeiria'r llenor o Eifionydd J. G. Williams ati yn ei waith hefyd, e.e. yn ei lyfr Pigau'r Sêr.