Afon Wen

pentref yng Ngwynedd

Pentref bychan ar afordir deheuol Penrhyn Llŷn yng Ngwynedd yw Afon Wen ("Cymorth – Sain" ynganiad ) (weithiau Afonwen). Saif ar y briffordd A497 tua hanner milltir i'r de o bentref Chwilog a thua hanner y ffordd rhwng Cricieth a Pwllheli, lle mae'r afon o'r un enw yn cyrraedd y môr. Mae gwersyll gwyliau Butlins ym Mhenychain ychydig i'r gorllewin.

Afon Wen
Mathpentrefan Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirGwynedd Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.9126°N 4.3246°W Edit this on Wikidata
Cod OSSH473375 Edit this on Wikidata
Cod postLL53 Edit this on Wikidata
Map
Am y pentref o'r un enw yn Sir y Fflint, gweler Afon-wen.

Ar un adeg gorsaf Afon Wen oedd lle roedd rheilffordd yn gadael y brif reilffordd i Bwllheli ac yn rhedeg tua'r gogledd i gysylltu a'r rheilffordd ar hyd yr arfordir gogleddol yng Nghaernarfon. Caewyd y lein yma yn 1965 a chodwyd y trac. Mae rhan o'r lein yma, rhwng Dinas a Chaernarfon, yn awr yn rhan o drac Rheilffordd Ucheldir Cymru. Erys y cof amdani, er enghraifft yn y gân Ar y Trên i Afon Wen gan Sobin a'r Smaeliaid.

Mae'r Lôn Goed yn cychwyn yn Afon Wen. Ceir sawl cyfeiriad ati gan lenorion, e.e. gan y bardd R. Williams Parry yn ei gerdd 'Eifionydd'.

Afon Wen