Cricieth
Tref hanesyddol a chymuned yng Ngwynedd, Cymru, yw Cricieth (ffurf amgen, ansafonol: Criccieth).[1][2] Saif ar arfordir deheuol Eifionydd.
Math | tref, cymuned |
---|---|
Poblogaeth | 1,736 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Gwynedd |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 52.917°N 4.2363°W |
Cod SYG | W04000059 |
Cod OS | SH505385 |
Cod post | LL52 |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Mabon ap Gwynfor (Plaid Cymru) |
AS/au y DU | Liz Saville Roberts (Plaid Cymru) |
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Mabon ap Gwynfor (Plaid Cymru)[3] ac yn Senedd y DU gan Liz Saville Roberts (Plaid Cymru).[4]
Saif amddiffynfa trawiadol Castell Cricieth fel cawr uwch y dref. Saif y dref 8km (5mill) i'r gorllewin o Borthmadog, 14 km (9mill) i'r dwyrain o Bwllheli a 27 km (17mill) i'r de o Gaernarfon. Roedd ganddi boblogaeth o tua 1,826 yn 2001.[5]
Enillodd y dref wobr Cymru yn ei Blodau yn 1999. Cynhelir cystadleuaeth Y Dyn Cryfa (am godi carreg fawr o flaen y Neuadd Goffa) bob blwyddyn ym mis Mehefin.[6]
Hanes
golyguEnw
golyguCrug y caethion (crug + caith) yw ystyr enw Cricieth yn ôl arbenigwyr enwau lleoedd; cyfeiria'r enw at garchar y castell yn ôl pob tebyg.[2] "Kruceith" yw'r sillafiad cynharaf ar gofnod.[7] Yn y 14g, mewn llythyr at Hywel y Fwyall, Ceidwad y Castell, "Cruciaith" oedd yr enw a ddefnyddiwyd.[8]
Cynhanes
golyguGwyddom fod yma bobl yn byw'n yr ardal yn yr Oes Efydd cynnar, fel y dengys siambr gladdu Cerrig Cae Dyni i'r dwyrain o'r dref. Ceir olion cwpannau Celtaidd, sef celfyddyd gynnar ar y saith carreg, sy'n beth hynod o anghyffredin.[9] Ganganorum Promontorium (Penrhyn y Gangani) oedd enw Ptolemi ar yr ardal; llwyth Celtaidd o Iwerddon oedd y Gangani.
Oes y Tywysogion
golygu- Prif: Castell Cricieth
Codwyd y castell Cymreig hwn yn 1230 gan Lywelyn ab Iorwerth a reolodd yr ardal ers 1202; ond mae'r cofnodion ysgrifenedig yn nodi mai yn 1239 y'i codwyd, pan symudwyd pencadlys Eifionydd yma o Ddolbenmaen.
Tyfodd tref fechan wrth droed y Castell yn yr Oesoedd Canol.
Eisteddfod Genedlaethol
golyguCynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol Cymru yng Nghricieth ym 1975, ble'r enillodd Gerallt Lloyd Owen y gadair am ei awdl "Yr Afon".
Y tywydd yng Nghricieth
golyguHinsawdd Cricieth | |||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Mis | Ion | Chw | Maw | Ebr | Mai | Meh | Gor | Aws | Med | Hyd | Tac | Rha | Blwyddyn |
Tymheredd uchaf (cyfartalog) °C (°F) | 8.0 (46.4) |
8.0 (46.4) |
9.0 (48.2) |
11.0 (51.8) |
14.0 (57.2) |
17.0 (62.6) |
18.0 (64.4) |
19.0 (66.2) |
17.0 (62.6) |
14.0 (57.2) |
11.0 (51.8) |
9.0 (48.2) |
12.92 (55.25) |
Tymheredd isaf (cyfartalog) °C (°F) | 3.0 (37.4) |
3.0 (37.4) |
4.0 (39.2) |
5.0 (41.0) |
8.0 (46.4) |
10.0 (50.0) |
12.0 (53.6) |
12.0 (53.6) |
11.0 (51.8) |
9.0 (48.2) |
6.0 (42.8) |
4.0 (39.2) |
7.25 (45.05) |
dyddodiad mm (modfeddi) | 83.8 (3.299) |
55.9 (2.201) |
66.0 (2.598) |
53.3 (2.098) |
48.3 (1.902) |
53.3 (2.098) |
53.3 (2.098) |
73.7 (2.902) |
73.7 (2.902) |
91.4 (3.598) |
99.1 (3.902) |
94.0 (3.701) |
845.8 (33.299) |
Source: [10] |
Cyfrifiad 2011
golyguYng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[11][12][13]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Comisiynydd y Gymraeg. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2023-03-30. Cyrchwyd 29 Awst 2022.
- ↑ 2.0 2.1 Owen, Hywel Wyn (2007). Dictionary of the place-names of Wales. Richard Morgan. Llandysul: Gwasg Gomer. ISBN 978-1-84323-901-7. OCLC 191731809.
- ↑ Gwefan Senedd Cymru
- ↑ Gwefan Senedd y DU
- ↑ "Cyfrifiad 2001". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2010-09-22. Cyrchwyd 2012-03-21.
- ↑ "Cricieth - Y Garreg Orchest". Casgliad y Werin Cymru. Cyrchwyd 29 Awst 2022.
- ↑ "Kruceith". Rhestr o Enwau Lleoedd Hanesyddol Cymru. Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2022-08-29. Cyrchwyd 29 Awst 2022.
- ↑ Gwaith Iolo Goch, gol. D. R. Johnston (Gwasg Prifysgol Cymru, 1988), cerdd rhif II.37
- ↑ "Gwefan Clifton Antiquarian Club; adalwyd 22/03/2012". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-10-08. Cyrchwyd 2012-03-21.
- ↑ The Weather Channel : Criccieth Weather Adalwyd 2009-08-17
- ↑ "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
- ↑ Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
- ↑ Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
Dinas
Bangor
Trefi
Abermaw · Y Bala · Bethesda · Blaenau Ffestiniog · Caernarfon · Cricieth · Dolgellau · Harlech · Nefyn · Penrhyndeudraeth · Porthmadog · Pwllheli · Tywyn
Pentrefi
Aberangell · Aberdaron · Aberdesach · Aberdyfi · Aber-erch · Abergwyngregyn · Abergynolwyn · Aberllefenni · Abersoch · Afon Wen · Arthog · Beddgelert · Bethania · Bethel · Betws Garmon · Boduan · Y Bont-ddu · Bontnewydd (Arfon) · Bontnewydd (Meirionnydd) · Botwnnog · Brithdir · Bronaber · Bryncir · Bryncroes · Bryn-crug · Brynrefail · Bwlchtocyn · Caeathro · Carmel · Carneddi · Cefnddwysarn · Clynnog Fawr · Corris · Croesor · Crogen · Cwm-y-glo · Chwilog · Deiniolen · Dinas, Llanwnda · Dinas, Llŷn · Dinas Dinlle · Dinas Mawddwy · Dolbenmaen · Dolydd · Dyffryn Ardudwy · Edern · Efailnewydd · Fairbourne · Y Felinheli · Y Ffôr · Y Fron · Fron-goch · Ffestiniog · Ganllwyd · Garndolbenmaen · Garreg · Gellilydan · Glan-y-wern · Glasinfryn · Golan · Groeslon · Llanaber · Llanaelhaearn · Llanarmon · Llanbedr · Llanbedrog · Llanberis · Llandanwg · Llandecwyn · Llandegwning · Llandwrog · Llandygái · Llanddeiniolen · Llandderfel · Llanddwywe · Llanegryn · Llanenddwyn · Llanengan · Llanelltyd · Llanfachreth · Llanfaelrhys · Llanfaglan · Llanfair · Llanfihangel-y-Pennant (Abergynolwyn) · Llanfihangel-y-Pennant (Cwm Pennant) · Llanfihangel-y-traethau · Llanfor · Llanfrothen · Llangelynnin · Llangïan · Llangwnadl · Llwyngwril · Llangybi · Llangywer · Llaniestyn · Llanllechid · Llanllyfni · Llannor · Llanrug · Llanuwchllyn · Llanwnda · Llanymawddwy · Llanystumdwy · Llanycil · Llithfaen · Maentwrog · Mallwyd · Minffordd · Minllyn · Morfa Bychan · Morfa Nefyn · Mynydd Llandygái · Mynytho · Nantlle · Nantmor · Nant Peris · Nasareth · Nebo · Pant Glas · Penmorfa · Pennal · Penrhos · Penrhosgarnedd · Pen-sarn · Pentir · Pentrefelin · Pentre Gwynfryn · Pentreuchaf · Pen-y-groes · Pistyll · Pontllyfni · Portmeirion · Prenteg · Rachub · Y Rhiw · Rhiwlas · Rhos-fawr · Rhosgadfan · Rhoshirwaun · Rhoslan · Rhoslefain · Rhostryfan · Rhos-y-gwaliau · Rhyd · Rhyd-ddu · Rhyduchaf · Rhydyclafdy · Rhydymain · Sarnau · Sarn Mellteyrn · Saron · Sling · Soar · Talsarnau · Tal-y-bont, Abermaw · Tal-y-bont, Bangor · Tal-y-llyn · Tal-y-sarn · Tanygrisiau · Trawsfynydd · Treborth · Trefor · Tre-garth · Tremadog · Tudweiliog · Waunfawr