A Coruña
(Ailgyfeiriad o La Coruña)
Un o ddinasoedd pwysicaf Cymuned Galisia yw La Coruña (Galisieg: A Coruña). Mae porthladd prysur yn y ddinas sy'n ganolbwynt i'r gwaith o ddosbarthu nwyddau amaethyddol yn yr ardal. Er mai yn ninas gyfagos Ferrol y mae llawer o'r diwydiannau trymion, mae purfa olew yno sy'n gyflogwr pwysig yn yr ardal. Mae'r ddinas wedi bod yn bwysig i forwyr ers yr Oes Rufeinig; cyrhaeddon nhw yn yr 2g CC gan fanteisio ar safle da y ddinas. Erbyn y flwyddyn 62 OC, roedd Iwl Cesar wedi mynd i ymweld â'r lle a sefydlodd fasnach gyda Ffrainc, Lloegr a Phortiwgal.
Math | bwrdeistref Galisia |
---|---|
Prifddinas | A Coruña |
Poblogaeth | 247,376 |
Pennaeth llywodraeth | Inés Rey García |
Cylchfa amser | UTC+01:00 |
Gefeilldref/i | |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Mancomunidad de Municipios del Área del de La Coruña |
Sir | Talaith A Coruña |
Gwlad | Sbaen |
Arwynebedd | 37.83 km² |
Uwch y môr | 21 metr |
Gerllaw | Cefnfor yr Iwerydd |
Yn ffinio gyda | Arteixo, Culleredo, Oleiros |
Cyfesurynnau | 43.373857°N 8.400027°W |
Cod post | 15001–15011 |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | Maer A Coruña |
Pennaeth y Llywodraeth | Inés Rey García |