Cân gan gantores Cypraidd Ivi Adamou ydy La La Love. Dewisiwyd y gân i gynrychioli Cyprus yng Nghystadleuaeth Cân Eurovision 2012.
"La La Love"
|
|
Sengl gan Ivi Adamou
|
o'r albwm San Ena Oneiro (Euro Edition)
|
Rhyddhawyd
|
25 Ionawr 2012
|
Fformat
|
Sengl digidol
|
Recodriwyd
|
2011
|
Genre
|
Dawns, Pop
|
Parhad
|
3:02
|
Label
|
Sony Music Greece
|
Ysgrifennwr
|
Alex Papaconstantinou, Bjorn Djupstrom, Alexandra Zakka, Viktor Svensson
|
Cynhyrchydd
|
Victory
|
Ivi Adamou senglau cronoleg
|
"Voltes St' Asteria" (2011)
|
"La La Love" (2012)
|
"Madness" (2012)
|
|
Rhagddewis Eurovision Cyprus
golygu
Dewisodd CyBC, darlledwr o Gyprus, Ivi Adamou yn fewnol. Dewisiwyd tair cân i'w canu yn sioe rhagddewis Cyprus, pob un ohonynt wedi cael eu hysgrifennu yn bennaf gan gyfansoddwyr tramor.[1] Yn y sioe, a gynhaliwyd ar 25 Ionawr 2012, pleidleisiodd y cyhoedd a'r rheithgor dros "La La Love", y gân fuddugol.[2][3]
Canlyniadau'r rownd derfynol
Rhif |
Cân |
Ysgrifenwyr[4] |
Pwyntiau[5] |
Safle
|
1 |
"Call The Police" |
Lene Dissing, Jakob Glæsner, Mikko Tamminen |
8 |
3ydd
|
2 |
"La La Love" |
Alex Papaconstantinou, Bjorn Djupstrom, Alexandra Zakka, Viktor Svensson |
12 |
1af
|
3 |
"You Don't Belong Here" |
Niklas Jarl, Alexander Schold, Sharon Vaughn |
10 |
2ail
|
Mae fideo o'r gân yn seliedig ar y stori Snow White ar gael.
Perfformiodd Adamou "La La Love" yn rownd gyn-derfynol gyntaf y Gystadleuaeth Cân Eurovision 2012 ar 22 Mai ac enillodd hi le yn y rownd derfynol.