La Machine infernale

Drama Ffrangeg gan Jean Cocteau yw La Machine infernale (sef "Y Peiriant Uffernol"). Lluniwyd y ddrama 1932 a chafodd ei llwyfannu am y tro cyntaf ar 10 Ebrill 1934 yn y Comédie des Champs-Élysées (theatr Louis-Jouvet) ym Mharis, â'r setiau wedi'u cynllwyno gan Christian Bérard. Seilir y ddrama ar y drasiedi Roeg Oedipus rex (Oidipos Frenin) gan Soffocles. Cyflwynodd Cocteau'r gwaith i Marie-Laure a Charles de Noailles.[1]

La Machine infernale
Enghraifft o'r canlynolgwaith llenyddol Edit this on Wikidata
AwdurJean Cocteau Edit this on Wikidata
IaithFfrangeg Edit this on Wikidata
Lleoliad y gwaithThebai Edit this on Wikidata

Cynllun golygu

Rhennir y ddrama yn bedair rhan, sef:

  1. Le Fantôme ('Y Drychiolaeth')
  2. La Rencontre d'Œdipe et du Sphinx ('Cyfarfod Oidipos a'r Sffinx')
  3. La Nuit de noces ('Y Neithior')
  4. Œdipe roi ('Oidipos Frenin')

Prif gymeriadau golygu

Argraffiadau Ffrangeg golygu

Ni chafwyd cyfieithiad Cymraeg eto.

Cyfeiriadau golygu

  1. Jean Cocteau, La machine infernale (Le Livre de Poche, 1964), tud. 8.