Rhagweledydd dall o Thebae ym mytholeg Roeg yw Tiresias. Roedd yn fab i'r nymff Chariclo, un o ffefrynnau'r dduwies Athena.[1]

Ysgythriad o Tiresias yn taro'r neidr a chael ei droi'n ferch, gan Johann Ulrich Krauss (tua 1690).

Ceir mwy nag un stori sy'n ceisio esbonio'i ddallineb. Yn ôl un chwedl, cafodd y llanc ei ddallu gan Athena am iddo weld hi'n ymdrochi'n noeth, ond derbynodd hefyd ei rym proffwydol a'r gallu i siarad â'r adar. Sonir amdano hefyd yn treulio cyfnod o'i fywyd yn fenyw. Yn ôl y stori hon, darganfu Tiresias dwy neidr yn cyplu. Cafodd y dyn ei droi'n ferch wedi iddo ladd y neidr fenywol. Ymhen saith mlynedd, daeth o hyd i bâr arall o nadroedd yn cael rhyw: gwnaeth Tiresias ladd y neidr wrywol a drodd yn ôl yn ddyn. Pan ofynnwyd gan Zeus a Hera p'un o'r ddwy ryw sy'n mwynhau'n bennaf wrth garu, atebodd Tiresias taw'r dyn sy'n rhoi mwy o bleser i'r fenyw na'r ffordd arall. Cafodd Hera ei digio am iddo ddatgelu "cyfrinach pob merch", a throdd Tiresias yn ddall am gosb. I wneud iawn am hyn, rhodd Zeus iddo allu darogan ac oes hir. Dywed yr oedd Tiresias yn ddyn doeth iawn, ac hyd yn oed wedi ei farwolaeth roedd ei ysbryd yn fod deallus ac yn parháu i ddarogan yn yr isfyd.[2]

Ymddengys yn gymeriad mewn nifer o'r trasiedïau a leolir yn Thebae, gan lenorion clasurol megis Soffocles, Ewripides, Pindar, ac Ofydd. Tiresias sy'n cynghori Odysseus yn yr Odyseia, yn datgelu troseddau Oidipos, ac yn rhybuddio Pentheus, Brenin Thebae i dalu teyrnged i Dionysus. Ymddengys hefyd mewn gweithiau modern fel proffwyd ac fel ffigur androgynaidd, megis The Waste Land gan T. S. Eliot a La Machine infernale gan Jean Cocteau.

Cyfeiriadau golygu

  1. (Saesneg) Tiresias. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 16 Rhagfyr 2016.
  2. (Saesneg) "Tiresias" yn Myths and Legends of the World (Macmillan, 2001). Adalwyd ar Encyclopedia.com ar 16 Rhagfyr 2016.