Nofel Ffrangeg gan Albert Camus yw La Peste (sef "Y Pla"), a gyhoeddwyd yn 1947 ac a enillodd Wobr Nobel yn 1957. Fe'i lleolir yn Oran, Algeria yn y cyfnod trefedigaethol pan reolwyd y wlad honno gan Ffrainc. Gosodir digwyddiadau'r nofel yn y 1940au. Mae'r nofel yn adrodd hanes bywyd beunyddiol trigolion y ddinas yn ystod pla sy'n ei tharo ac yn torri pob cysylltiad rhyngddi a gweddill y byd. Nofel symbolaidd ydyw, sy'n adlewyrchu athroniaeth ddirfodol yr awdur. Gyda'i nofel fawr arall, L'Étranger, mae'n un o glasuron llenyddiaeth dirfodaeth.

La Peste
Enghraifft o'r canlynolgwaith llenyddol Edit this on Wikidata
AwdurAlbert Camus Edit this on Wikidata
CyhoeddwrÉditions Gallimard Edit this on Wikidata
GwladFfrainc Edit this on Wikidata
IaithFfrangeg Edit this on Wikidata
Dyddiad cyhoeddi1947 Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1947 Edit this on Wikidata
Genreabsurdism Edit this on Wikidata
Rhagflaenwyd ganResistance, Rebellion, and Death Edit this on Wikidata
CymeriadauQ65212706 Edit this on Wikidata
Prif bwncy pla, epidemig Edit this on Wikidata
Lleoliad y gwaithOran Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Dolenni allanol

golygu
  Eginyn erthygl sydd uchod am lyfr. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.