Essaouira
Dinas ar arfordir de-orllewinol Moroco yw Essaouira (Arabeg: الصويرة, eṣ-ṣauīrah; hen enw: Mogador). Mae'n gorwedd ar lan y Cefnfor Iwerydd i'r de o Casablanca ac mae'n brifddinas talaith Essaouira yn rhanbarth Marrakech-Tensift-El Haouz. Poblogaeth: tua 70,000 (2004).
Math | dinas, urban commune of Morocco ![]() |
---|---|
Poblogaeth | 77,966 ![]() |
Pennaeth llywodraeth | Asma Chaabi ![]() |
Gefeilldref/i | La Rochelle, Cascais ![]() |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | South Atlantic Coast (Morocco) ![]() |
Sir | Talaith Essaouira ![]() |
Gwlad | ![]() |
Arwynebedd | 90 km² ![]() |
Uwch y môr | 11 ±1 metr ![]() |
Gerllaw | Cefnfor yr Iwerydd ![]() |
Cyfesurynnau | 31.513023°N 9.768696°W ![]() |
Pennaeth y Llywodraeth | Asma Chaabi ![]() |
![]() | |

Credir fod pobl yn byw yn yr ardal ers y cyfnod cynhanesyddol. Daeth y fforiwr a morwr enwog o Carthago, Hanno, yma yn y 5g CC ar ei fordaith ar hyd arfordir Affrica a sefydlu canolfan marchnad arfordirol. Am gyfnod bu ym meddiant Portiwgal ac mae rhai o adeiladau'r hen ddinas yn dyddio o'r cyfnod yma, fel y castell ger yr harbwr. Erbyn y 18g, Essaouira oedd porthladd pwysicaf de Moroco. Bu nifer o Iddewon yn byw yno yn y gorffennol ond mae'r mwyafrif llethol wedi gadael, fel yng ngweddill y Maghreb.
Mae medina Essaouira yn Safle Treftadaeth y Byd ar restr UNESCO.
Dolenni allanol golygu
- Safle Treftadaeth y Byd UNESCO: Medina Essaouira (Mogador) (sawl iaith)
- (Ffrangeg)Gŵyl Gerddoriaeth Essaouira
- (Ffrangeg) (Saesneg) Cylchgrawn ar-lein am ddiwylliant Essaouira Archifwyd 2021-05-12 yn y Peiriant Wayback.