Astudiaeth wyddonol, a chymhariaeth deg rhwng dwy set o ffeithiau, dwy ffactor neu ddau gyflwr yw arbrawf, sy'n ddull o weithredu a reolir yn ofalus er mwyn cadarnhau, gwrthbrofi neu ddilysu rhyw ddamcaniaeth.

Arbrawf
Mathtest, research work Edit this on Wikidata
Rhan oexperimentation Edit this on Wikidata
Yn cynnwysprotocol Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Disgyblion Ysgol Rhuthun, Sir Ddinbych yn arbrofi gyda mwynau gwahanol, a'u heffaith ar liw fflam llosgydd Bunsen; Mawrth 2012.

Mewn arbrawf, cofnodir un cyflwr (ee pwysau darn o bapur), ac yna newidir un peth (a elwir yn "newidyn annibynnol") a chofnodir yr ail ddigwyddiad (ee pwysau'r lludw wedi i'r papur gael ei losgi), gan sylwi'n ofalus ar effaith y newid hwn rhwng y newidyn dibynnol (pwysau'r papur) a'r newidyn annibynnol (pwysau'r lludw). Pwrpas yr arbrawf, felly yw canfod neu gadarnhau'r berthynas achos-effaith rhwng y newidynnau. Mewn geiriau eraill, mewn arbrawf, teflir golau newydd ar achos-ac-effaith drwy arddangos pa ganlyniad (yr effaith) all ddigwydd pan newidir un ffactor.

Cysylltir yr arbrawf gyda maes eang gwyddoniaeth, ond mae'n digwydd yn aml yn y byd real, e.e. gall cogydd gynnal arbrawf i weld am ba hyd sydd angen coginio darn o gaws, cyn iddo grimpio, neu fe all ffermwr edrych ar effaith tyfu hadau newydd, gwahanol ar ddarn o'i dir, a'u cymharu gyda maint ac ansawdd y planhigion o'r hadau a ddefnyddiodd y flwyddyn cynt. Mae arbrofion yn amrywio'n fawr o ran nod a maint, ond maent bob amser yn dibynnu ar weithdrefn (neu 'ddull o weithredu') ailadroddus a dadansoddiad rhesymegol o'r canlyniadau. I fabi, mae arbrofi'n rhan o dyfu fyny, a dim ond drwy arbrofi y gall ddeall rhai pethau, er enghraifft fod fflam y gannwyll yn achosi poen, o'i gyffwrdd! Mae arbrofi gyda disgyrchiant (plat yn disgyn) yn rhan anhepgor o'i fagwraeth. Ar yr un gwynt, mae profion neu weithagareddau ymarferol yn help i fyfyrwyr ddeall a chofio ffeithiau. Gall rhai arbrofion gymryd blynyddoedd i'w gwneud, fel y wybodaeth newydd a ddaw drwy astudio gronynnau isatomig yn CERN.

Dull gwyddonol

golygu

Amrywiaeth o dechnegau a ddefnyddir i ymchwilio i mewn i ryw ffenomena yw'r 'dull gwyddonol', er mwyn casglu neu gywiro gwybodaeth am y Ddaear, bywyd ar y ddaear neu'r gofod. Fel arfer mae'r dull gwyddonol yn cynnwys: gosod y broblem (neu'r hypothesis), rhagfynegi, cynllunio arbrafwf, mynd ati'n deg gan newid un peth ar y tro (y newidyn), arsylwi, casglu'r data wrth wneud yr arbrawf drwy ei gofnodi a dod i ganlyniad, ac yn olaf: ei gyhoeddi.

Y person cyntaf y ceir cofnod ohono'n cynnal arbrawf (yn yr ystyr fodern o'r gair) yw'r mathemategydd Ibn al-Haytham. Cynhaliodd lawer o arbrofion o fewn y maes opteg drwy reoli ei arbrofion gan wiro ei ganlyniadau, cymharu ei ganlyniadau, cofnodi a hunan-farnu'r canlyniadau. Ymddangosodd y gair "arbrawf" yn y Gymraeg yn 1909; cyn hynny defnyddid y gair "prawf", sy'n tarddu o "roi <un>prawf ar ddamcaniaeth arbennig".

Termau

golygu
  • arbrawf dall: blind experiment
  • ffug arbrawf: simulated experiment
  • lled-arbrawf (lledarbrofion): quasi-experiment
  • rheolydd arbrawfeb: experimental control
  • newidyn dibynnol: dependent variable
  • newidyn annibynnol: independent variable

Cyfeiriadau

golygu