Awdures o Ymerodraeth Rwsia oedd Larin Paraske (27 Rhagfyr 1833 - 3 Ionawr 1904) sy'n cael ei hystyried yn nodedig am ei gwaith fel awdur, bardd a canwr

Larin Paraske
Ganwyd27 Rhagfyr 1832 (yn y Calendr IwliaiddEdit this on Wikidata
Lembolovo, Q16707549 Edit this on Wikidata
Bu farw3 Ionawr 1904 Edit this on Wikidata
Zaporozhskoye, Keksgolmsky Uyezd Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Rwsia Rwsia
Galwedigaethbardd, canwr, ysgrifennwr, runo singer, cyfarwydd, burlak Edit this on Wikidata

Bywyd golygu

Roedd Larin Paraske yn fardd llafar ac fe'i hystyrir yn ffigwr allweddol ym myd barddoniaeth werin y Ffindir. Paraskeva Nikitina oedd ei henw swyddogol Rwsaidd ac fe'i ganed yn Lempaala, Gogledd Ingria. Roedd ei thad, Mikitta Mikitanpoika (1802-1851) yn werinwr heb dir a oedd yn rhentu ei fferm ac ye oedd o, fel mam Paraske, yn dod o gefndir ethnig Izhoraidd. Yn 1853 priododd Paraske gyda gwerinwr a oedd ugain mlynedd yn hŷn na hi o'r enw Kaurila Teppananpoike (neu Gavril Stepanov) o bentref Vasketa yn Sakkola. Cawsant naw o blant rhwng 1855 ac 1878 ond dim ond tri ohonynt wnaeth oroesi i fod yn oedolion. Bu hefyd yn gofalu am 50 o blant amddifad o St Petersburg. Roedd ei gŵr yn ddyn gwael ar hyd ei oes a bu farw yntau yn 1888. Aeth a'i gwaith fel bardd â hi i ddinas Porvoo am gyfnod, ond yna dychwelodd i Vaskela, Sakkola yn 1894 ac er gwaethaf ei llwyddiant fel bardd, parhaodd i fod yn dlawd a bu'n rhaid gwerthu ei thŷ yn ystod haf 1899 oherwydd dyledion treth. Dyfarnwyd pensiwn artist iddi gan Gymdeithas Lenyddol y Ffindir yn 1901, ond ni fu modd iddi oresgwyn ei phroblemau ariannol a bu farw'n ddiymgeledd yn Sakkola yn 1904.[1]

Gyrfa golygu

Gallai Paraske adrodd dros 3200 llinell o farddoniaeth ar ei chof. Cafodd ei cherddi ei chofnodi gan Adolf Neovius yn yr 1880au, ac wedi nifer o flwynyddoedd o waith cofnodwyd 1200 o gerddi, 1750 o ddiarhebion a 336 o rigymau, ynghyd â nifer o alarnadau (itkuvirsi) a berfformiwyd trwy wylo ac igian. Yn 1891 teithiodd Paraske i Porvoo gyda Neovius er mwyn cwblhau eu prosiect. Yn y tair blynedd a ddilynodd rhoddod nifer o berfformiadau yn Porvoo a Helsinki a chynyddodd ei phoblogrwydd yn ystod y cyfnod hwn. Roedd Noevius wedi adnabod ei thalent a thalai un rwble yr awr iddi am ganu ei cherddi. Ymysg y rhai arferiai wrando'n gyson ar ei gwaith roedd nifer o artistiaid cenedlaetholgar rhamantaidd megis Jean Sibelius fu'n chwilio am ysbrydoliaeth o'i dehongliad hi o'r Kalevala, cerdd epig o lên gwerin Ffinnaidd gan Elias Lönnrot.[2]

Cyfeiriadau golygu

  1. "Larin Paraske – Inkerin lauluemo". Inkerin kulttuuriseura ry. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-07-13. Cyrchwyd 2007-01-16.
  2. MacDonald, Hugh. "Sibelius Revisited 2 – Programme Notes". BBC. Cyrchwyd 2007-01-16.[dolen marw]