Elias Lönnrot
Ieithydd, bardd a chasglwyr llên gwerin o'r Ffindir oedd Elias Lönnrot ( ynganiad ) (9 Ebrill 1802 – 19 Mawrth 1884), a aned yn Sammatti yn ardal Nyland.
Elias Lönnrot | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | 9 Ebrill 1802 ![]() Sammatti ![]() |
Bu farw | 19 Mawrth 1884 ![]() Sammatti ![]() |
Man preswyl | Uchel Ddugiaeth y Ffindir, Hövelö ![]() |
Dinasyddiaeth | Sweden, Uchel Ddugiaeth y Ffindir ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth | geiriadurwr, ieithydd, addysgwr, llenor, bardd, emynydd, meddyg ac awdur, botanegydd, arbenigwr mewn llên gwerin, meddyg, ieithegydd, casglwr ![]() |
Cyflogwr | |
Adnabyddus am | Kalevala ![]() |
Priod | Maria Piponius ![]() |
Perthnasau | Miina Lönnrot ![]() |
Llinach | family of Elias Lönnrot ![]() |
Gwobr/au | Urdd Teilyngdod am Wyddoniaeth a Chelf, Urdd Sant Anna, 3ydd Dosbarth, Urdd Santes Anna, Ail Ddosbarth, Marchog Urdd y Seren Pegwn ![]() |

O ran ei alwedigaeth roedd Lönnrot yn feddyg cefn-gwlad am ugain mlynedd yn Kajana a dreuliai ei amser yn cofnodi cerddi a baledi traddodiadol y werin, yn eu plith y Kalevala, arwrgerdd genedlaethol y Ffindir, a gyhoeddwyd ganddo rhwng 1838 a 1849. Mewn cydnabyddiaeth o'i waith apwyntiwyd Lönrot yn athro llenyddiaeth Ffinneg ym mhrifysgol Helsinki (1853 - 1862).
Yn ogystal â'r Kalevala cyhoeddodd geiriadur mawr Ffinneg-Swedeg (1866 - 1880) a osododd seiliau cadarn i'r iaith Ffinneg fel iaith lenyddol.
Ymddiddorai mewn botaneg hefyd ac yn 1860 cyhoeddodd ei Flora Fennica – Suomen Kasvisto, un o'r llawlyfrau cynharaf ar flodau a phlanhigion mewn iaith frodorol i ymddangos. Roedd y llyfr yn ddylanwadol iawn yn Llychlyn.