Las Palmas de Gran Canaria
Las Palmas de Gran Canaria, a adwaenir yn aml fel Las Palmas yw dinas fwyaf yr Ynysoedd Dedwydd a'r nawfed dinas yn Sbaen o ran poblogaeth. Saif yng ngogledd-ddwyrain ynys Gran Canaria. Hi yw prifddinas yr ynys a phrifddinas talaith Las Palmas, yn ogystal â bod yn brifddinas Cymuned Ymreolaethol yr Ynysoedd Dedwydd ar y cyd gyda Santa Cruz de Tenerife. Roedd y boblogaeth yn 377,203 yn 2007.
Math | bwrdeistref Sbaen, cyrchfan i dwristiaid |
---|---|
Prifddinas | Las Palmas de Gran Canaria |
Poblogaeth | 378,027 |
Sefydlwyd | |
Pennaeth llywodraeth | Carolina Darias San Sebastián |
Cylchfa amser | UTC+01:00, UTC±00:00 |
Gefeilldref/i | Rotterdam, San Antonio, Palma de Mallorca, Cádiz, Móstoles, Jerez de la Frontera, Chimbote, Salamanca, San Cristóbal de La Laguna, Garachico, Caracas, Altagracia de Orituco, Nouadhibou, Rabat, Praia, Vigo |
Nawddsant | Cristo de la Vera Cruz (Las Palmas de Gran Canaria), Ann |
Daearyddiaeth | |
Sir | Las Palmas |
Gwlad | Sbaen |
Arwynebedd | 100.55 km² |
Uwch y môr | 8 ±1 metr |
Gerllaw | Cefnfor yr Iwerydd |
Yn ffinio gyda | Arucas, Santa Brígida, Telde, Teror |
Cyfesurynnau | 28.1272°N 15.4314°W |
Cod post | 35001–35020 |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | mayor of Las Palmas de Gran Canaria |
Pennaeth y Llywodraeth | Carolina Darias San Sebastián |
Dyddia sefydliad y ddinas i 1478, pan ddechreuodd Juan Rejón ar goncwest Gran Canaria i Goron Sbaen. Galwodd Christopher Columbus yna yn Awst 1492 i drwsio ei longau, ar ei ffordd i ddarganfod y Byd Newydd.