Vigo
Dinas yng nghymuned ymreolaethol Galisia yn Sbaen yw Vigo. Saif ar lan y môr yn nhalaith Pontevedra. Yn 2005 roedd poblogaeth y ddinas ei hun yn 293,725, a phoblogaeth yr ardal ddinesig yn 420,672. Y diwydiannau pwysicaf yw pysgota ac adeiladu llongau, ac mae'r tîm peldroed, Celta de Vigo, yn adnabyddus.
Math | bwrdeistref Galisia |
---|---|
Prifddinas | Vigo City |
Poblogaeth | 293,652 |
Pennaeth llywodraeth | Abel Caballero |
Cylchfa amser | UTC+01:00, UTC+2 |
Gefeilldref/i | Caracas, Buenos Aires, Narsaq, Durango, An Oriant, Porto, Las Palmas de Gran Canaria, Guadalajara, Qingdao |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Q107553281 |
Sir | Talaith Pontevedra |
Gwlad | Sbaen |
Arwynebedd | 109.06 km² |
Uwch y môr | 28 metr |
Gerllaw | Cefnfor yr Iwerydd, Ría de Vigo |
Yn ffinio gyda | Nigrán, Gondomar, O Porriño, Mos, Redondela |
Cyfesurynnau | 42.2358°N 8.7267°W |
Cod post | 36201–36216 |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | mayor of Vigo |
Pennaeth y Llywodraeth | Abel Caballero |
Adeiladwyd Vigo ar safle bryngaer (Castro) a thref Rufeinig; credir fod yr enw "Vigo" yn dod o'r Lladin Vicus. Yn 1585 a 1589 ymosododd Francis Drake ar y ddinas a llosgi llawer o adeiladau, ac yn ddiweddarach ymosododd y Twrciaid arni. Yn 1656 adeiladwyd muriau i'w hamddiffyn. Cipiwyd y ddinas gan y Saeson yn 1719 a chan y Ffrancwyr yn 1808. Tyfodd yn gyflym yn ystod y 19g a'r 20g.
Pobl enwog o Vigo
golygu- Antonio Fernández: arlunydd
- Antonio M. Perez: pennaeth cwmni Eastman Kodak
- Ángel Lemos: arlunydd
- Cesáreo González: cynhyrchydd ffilm
- Martín Codax: bardd