Lawnslot-Greal
Cyfres o chwedlau am y brenin Arthur yn Ffrangeg yw'r Lawnslot-Greal (Ffrangeg: Lancelot-Graal, a adnabyddir hefyd fel y ' Lawnslot rhyddiaith:, y Fwlgat, neu'r Cycle du Pseudo-Map. Credir fod y gwaith yn perthyn i ddechrau'r 13g, ond ni wyddir pwy oedd yr awdur. Mae'n ymdrin a'r ymchwil am y Greal Santaidd a hanes y garwriaeth rhwng y frenhines Gwenhwyfar a Lawnslot. Bu'n ffynhonnell bwysig i weithiau eraill, megis Le Morte d'Arthur gan Thomas Malory.
Rhennir y gwaith yn bump adran:
- L'Estoire del Saint Grail (Hanes y Greal Santaidd), hanes Joseph o Arimathea a'i fab Josephus yn dwyn y Greal i Ynys Brydain.
- L'Estoire de Merlin (neu Merlin en prose), hanes y dewin Myrddin a dechrau teyrnasiad Arthur.
- Le Lancelot y rhan hiraf, yn rhoi hanes anturiaethau Lawnslot a marchogion eraill y Ford Gron, a pherthynas Lawnslot a Gwenhwyfar.
- La Queste del Saint Graal, yr ymchwil am y Greal Santaidd a llwyddiant Galahad. Ceir trosiad rhydd i ryddiaith Cymraeg Canol dan y teitl Ystoryaeu Seint Greal.
- La Mort Artu, marwolaeth Arthur, a leddir gan Medrawd a dinistr y deyrnas.
Llyfryddiaeth
golygu- Thomas Jones (gol.), Ystoryaeu Seint Greal (Caerdydd, 1992).
- Albert Pauphilet (gol.), La Queste del Saint Greal (Paris, adargraffiad 1972)
- Albert Pauphilet, Études sur la Queste del Saint Graal (Paris, 1968)