Ystoryaeu Seint Greal

Rhamant Arthuraidd Cymraeg Canol yw Ystoryaeu Seint Greal (Cymraeg Diweddar: Ystorïau Saint Greal). Cyfieithiad neu addasiad o ddwy ramant Hen Ffrangeg ydyw, sef La Queste del Saint Graal a Le Haut Livre du Graal neu Perlesvaus sy'n ffurfio rhan o'r cylch a adweinir fel cylch Lawnslot-Greal. Golygwyd rhan gynta'r testun (Y Cais) gan Thomas Jones (cyhoeddwyd 1992). Golygwyd yr holl destun yn 1876 gan Robert Williams fel Y Seint Greal yn ei Selections from the Hengwrt Manuscripts.

Llawysgrifau golygu

Cedwir y testun mewn chwe llawysgrif. Y llawysgrif hynaf yw Peniarth 11 (diwedd y bedwaredd ganrif ar ddeg), yn llaw Hywel Fychan ap Hywel Goch o Fuellt, prif ysgrifennydd Llyfr Coch Hergest.

Llyfryddiaeth golygu

  • Thomas Jones (gol.), Ystoryaeu Seint Greal, (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 1992)
  • Albert Pauphilet (gol.), La Queste del Saint Graal (Paris, adargraffiad 1972)
  • Albert Pauphilet, Études sur la Queste del Saint Graal (Paris, 1968)

Gweler hefyd golygu