Layamon
Bardd yn yr iaith Saesneg Canol a flodeuai yn y 12g oedd Layamon, Lawamon neu Laghamon sy'n nodedig am ysgrifennu cronicl a elwir Brut Layamon, cerdd sy'n cynnwys y fersiwn gyntaf yn Saesneg o Chwedl Arthur.
Layamon | |
---|---|
Ganwyd | c. 1200 |
Bu farw | 13 g |
Dinasyddiaeth | Teyrnas Lloegr |
Galwedigaeth | bardd, ysgrifennwr, offeiriad |
Yn ôl bywgraffiad ei hun ar ddechrau'r Brut, offeiriad yn Ernley (Areley Kings), pentref ar lannau Afon Hafren yn Swydd Gaerwrangon, oedd Layamon. Dyn hyddysg, darllenwr brwd o hen lyfrau, a chasglwr chwedlau ydoedd.[1]
Un o'r enghreifftiau cynharaf o lenyddiaeth Saesneg Canol ydy'r Brut, a ysgrifennwyd mewn oes pan oedd Lladin ac Eingl-Normaneg yn brif ieithoedd llenyddol Lloegr. Ffynhonnell Layamon oedd y Roman de Brut gan Wace, gwaith Normaneg a oedd yn seiliedig ar ffug-hanes iaith Ladin y Cymro Sieffre o Fynwy, yr Historia Regum Britanniae. Ymddengys ychwanegiadau o ffynonellau eraill yn Brut Layamon, a honnir gan y bardd eu bod yn tarddu o waith Beda, Sant Alban a Sant Awstin, er nad yw hynny'n wir. Dyma'r sôn cyntaf hefyd o'r brenhinoedd Leir a Cymbeline yn llenyddiaeth Saesneg.[2]
Cyfeiriadau
golyguDarllen pellach
golygu- Kenneth J. Tiller, Layamon's Brut and the Anglo-Norman Vision of History (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 2007).