Wace
Bardd ac hanesydd o Jersey yn yr iaith Hen Normaneg oedd Wace (tua 1100 – rhywbryd ar ôl 1174).[1] Mae'n adnabyddus am ei ddau gronicl mydryddol Roman de Brut (1155) a Roman de Rou (1160–74).
Wace | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | c. 1100 ![]() Beilïaeth Jersey ![]() |
Bu farw | 1174, c. 1175 ![]() Bayeux ![]() |
Dinasyddiaeth | Dugiaeth Normandi ![]() |
Galwedigaeth | bardd, ysgrifennwr, hanesydd ![]() |
Hanes Prydain ers oes Brutus ydy Roman de Brut, sydd yn addasiad o ffug-hanes Sieffre o Fynwy, Historia Regum Britanniae, yn bennaf. Ychwanegodd Wace sawl agwedd ddychmygol a rhamantus at hanes traddodiadol Prydain a Chylch Arthur, gan gynnwys y Ford Gron. Arddull fywiocach a dramataidd sydd i gronicl Wace, a chyda'i gyfieithiad i'r Saesneg gan Layamon roedd yn hynod o ddylanwadol yn natblygiad chwedlau'r Brenin Arthur yn Lloegr ac yn Ffrainc.
Penodwyd Wace yn ganonwr yn Bayeux rhywbryd cyn 1169, ar gais Harri II, brenin Lloegr, yr hwn a gomisiynodd Roman de Rou. Ysgrifennwyd y gwaith hwnnw mewn cwpledi wythsill a phenillion unodl alecsandraidd. Hanes ydyw o'r dugiaid Normanaidd o gyfnod y Llychlynnwr Rou (Hrólfr yn Norseg, neu Rollon yn Ffrangeg) hyd at Robert Curthose, ac mae'n cynnwys disgrifiad enwog o Frwydr Hastings. Yn 1174, trosglwyddodd y Brenin Harri ei nawddogaeth at un o'r enw Beneeit (o bosib Benoît de Sainte-Maure), a bu gwaith Wace yn anorffenedig.
Yn ogystal â'r groniclau, mae tri gwaith defosiynol gan Wace hefyd yn goroesi.
CyfeiriadauGolygu
- ↑ (Saesneg) Wace. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 6 Mawrth 2019.