Lazarus Aaronson
Roedd Lazarus Aaronson, (18 Chwefror 1895 – 9 Rhagfyr 1966) yn fardd Seisnig ac yn athro economeg.[1]
Lazarus Aaronson | |
---|---|
Ganwyd | 24 Rhagfyr 1894, 18 Chwefror 1895 Spitalfields |
Bu farw | 9 Rhagfyr 1966 Harpenden |
Alma mater | |
Galwedigaeth | bardd, economegydd |
Cyflogwr | |
Gwobr/au | MBE |
Bywyd Personol
golyguGanwyd Aaronson yn Spitalfields, Llundain ym 1895 yn fab i Louis Aaronson, gwneuthurwr esgid a Sarah (née Kowalski) ei wraig. Roedd y tad yn fewnfudwr o Rwsia ac fe wnaed ef a’i pum plentyn, gan gynnwys Lazarus, yn ddinasyddion Prydeinig ym 1897.[2]
Cafodd ei addysgu yn Whitechapel City Boy’s School, Llundain, Ysgol Ramadeg Hackney Downs ac Ysgol Economeg a Gwyddor Gwleidyddiaeth Llundain (LSE).
Priododd tair gwaith. Priododd ei wraig gyntaf, Lilly Shalveson (1903-1989), ym 1924 roedd hi’n actio o dan yr enw llwyfan Lydia Sharewood[3]. Diweddodd y briodas mewn ysgariad ym 1931 ar sail perthynas godinebus Lilly gyda’r cyfarwyddwr theatr Theodore Komisarjevsky. Priododd a Dorothy Beatrice Lewer (1915-2005) ym 1938 gan ei hysgaru cyn priodi am y drydedd tro a Margaret Olive Ireson (1920-1981); bu iddynt un mab, David, a anwyd ym 1953.
Gyrfa
golyguDaeth yn athro economeg yng Ngholeg Dinas Llundain ym 1934 gan barhau yn y swydd am chwarter canrif. Wrth ymddeol fe’i penodwyd yn MBE am ei wasanaeth i addysg.
Gyrfa farddonol
golyguCyhoeddodd ei gasgliad cyntaf o farddoniaeth Christ in the Synagog gan gwmni Gollancz ym 1930, a’i ail gyfrol Poems ym 1933. Cyhoeddwyd ei gasgliad olaf, The Homeward Journey and Other Poems ym 1946.
Mae llawer o’i gerddi yn trafod twf ffasgiaeth, y goresgyniad Sofietaidd o’r Ffindir a’r Ail Ryfel Byd. Mae o hefyd yn trafod y gwrthdrawiad rhwng ei gefndir Iddewig a’r ffydd Cristionogol a mabwysiadodd yn niweddarach.
Marwolaeth
golyguBu farw o drawiad ar y galon yn Paddington Llundain yn 71 mlwydd oed. Claddwyd ei weddillion ym mynwent Westfield Road.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ William Baker, ‘Aaronson, Lazarus (1895–1966)’, Oxford Dictionary of National Biography, Oxford University Press, May 2015; online edn, Sept 2015 adalwyd 3 Mehefin 2017
- ↑ Archif Cenedlaethol Prydain; Kew, Surrey, Duplicate Certificates of Naturalisation, Declarations of British Nationality, and Declarations of Alienage; Dosbarth: HO 334; Darn 26
- ↑ 'The Independent' (28 Ebrill 1989) ysgrif goffa i Lydia Sherwood