Awdures o'r Almaen yw Lea Rosh (ganwyd 1 Hydref 1936) sy'n cael ei hystyried yn nodedig am ei gwaith fel newyddiadurwr, academydd ac awdur.

Lea Rosh
GanwydEdith Renate Ursula Rosh Edit this on Wikidata
1 Hydref 1936 Edit this on Wikidata
Berlin Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Yr Almaen Yr Almaen
Alma mater
  • Prifysgol Rhydd Berlin Edit this on Wikidata
Galwedigaethnewyddiadurwr, academydd, llenor, sgriptiwr ffilm, actor teledu Edit this on Wikidata
Cyflogwr
  • University of Management and Communication Edit this on Wikidata
Adnabyddus amMemorial to the Murdered Jews of Europe Edit this on Wikidata
Prif ddylanwadEberhard Jäckel Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolPlaid Sosialaidd, Democrataidd yr Almaen Edit this on Wikidata
Gwobr/auGwobr Geschwister-Scholl, Croes Urdd Teilyngdod Gweriniaeth Ffederal yr Almaen, Gwobr Schiller Dinas Mannheim, Carl-von-Ossietzky-Medaille Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://www.lea-rosh.de Edit this on Wikidata

Ganwyd Edith Renate Ursula Rosh yn Berlin. Roedd ei thad-cu ar ochr ei mam yn ganwr llys Iddewig. Cafodd ei thad ei ladd yn ystod gaeaf 1944 pan oedd yn filwr Wehnmacht yng ngwlad Pwyl. Pan oedd Rosh yn ddeunaw oed, trodd ei chefn ar yr Eglwys Lutheraidd yn yr Almaen ac mae'n disgrifio ei hun fel anffyddwraig. Dechreuodd ddefnyddio'r enw Lea fel ei henw cyntaf yn hytrach nag Edith a oedd, meddai, yn erchyll o Almaenaidd. Mae Rosh yn adnabyddus fel newyddiadurwr teledu, cyhoeddwr, entrepreneur a gweithredydd gwleidyddol. Roedd yn briod gyda'r diweddar Jakob Schulze-Rohr a oedd yn bensaer ac yn gontractiwr adeiladu yn Berlin ac yn frawd i'r cyfarwyddwr ffilm, Peter Schulze-Rohr. A hithau wedi bod yn aelod o'r SPD ers 1968, ystyrir Rosh yn ffigwr dadleuol a dylanwadol yn y byd gwleidyddol yn Berlin. Un o'i llwyddiannau pennaf oedd adeiladu Cofeb yr Iddewon Llofruddiedig yn Ewrop yn Berlin, ond llwyddodd i elyniaethu sawl arweinydd Iddewig Almaenaidd nodedig, megis Paul Spiegel, oherwydd ei gweithredar achlysur cysegu'r gofeb i'r Holocost ym mis Mai 2005; dangosodd ddant yr oedd wedi ei gymryd o wersyll-garchar Belzec yn 1988 gan dyngu y byddai'n ei osod mewn colofn yn y gofeb. Oherwydd yr ymateb ffyrnig gafwyd i'r weithred yma ni chafodd ei chynllun ei roi ar waith. Cafodd ei beirniadu'n hallt gan y cymdeithasegwr Y. Michal Bodemann a'i disgrifiodd fel un o'r 'ffug-Iddewon proffesiynol' - hynny yw, rhai nad ydynt o dras Iddewig 'sy'n gor-gydymdeimlo gydag Iddewiaeth'.[1]"[2]

Bu Rosh yn gweithio mewn amrywiol wasanaethau radio a theledu Almaenaidd, yn cynnwys Sender Freies Berlin a'r ZDF. O 1991 hyd 1997 fe'i hapwyntiwyd yn gyfarwyddwr stiwdio Hannover o'r Norddeutscher Rundfunk (NDR), a hi oedd y fenyw gyntaf i ddal swydd gyfatebol yn hanes darlledu yr Almaen. Derbyniodd sawl gwobr gyhoeddus megus y Bundesverdienstkreus yn 2006. Yn 1990 dyfarnwyd gwobr Geschwister-Scholl-Preis iddi, ynghyd â'r hanesydd Eberhard Jäckel, am eu gwaith ar y cyd, Der Tod ist ein Meister aus Deutschland. Ers 2007 mae Lea Rosh wedi dal swydd darlithydd yn yr University of Management and Communication (FH) ym maes Cymedroli a hyfforddiant i'r cyfryngau."[3][4]

Cyfeiriadau

golygu
  1. Keller, Claudia (2005-05-12). "Empörung über Lea Rosh". Der Tagesspiegel (yn German). Cyrchwyd 2008-01-01.CS1 maint: unrecognized language (link)
  2. Piritta Kleiner, Jüdisch, Jung und Jetzt: Identitäten und Lebenswelten junger Juden in München, p. 57, Herbert Utz Verlag, 2010, ISBN 3831640033
  3. "Bundesverdienstkreuz: Wowereit ehrte Lea Rosh". 2006-09-13. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-05-15.
  4. Geschwister-Scholl-Preis » Preisträger 1990 Archifwyd 2007-09-27 yn y Peiriant Wayback