Leah Owen
Cantores, arweinydd a hyfforddwraig o Gymraes oedd Leah Owen (13 Hydref 1953 – 4 Ionawr 2024)[1] a ddaeth i'r brig pan enillodd bedair gwobr gyntaf yn Eisteddfod Rhydaman, 1970. Enillodd Fedal Syr T.H. Parry-Williams[2] yn 2010.
Leah Owen | |
---|---|
Ganwyd | 13 Hydref 1953 Bangor |
Bu farw | 4 Ionawr 2024 Dinbych |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | canwr, cyfarwyddwr côr, athro |
Priod | Eifion Lloyd Jones |
Fe'i ganwyd ym Mangor a'i magwyd yn Rhosmeirch ar Ynys Môn.[3] Aeth i Brifysgol Bangor gan raddio gyda Baglor mewn Cerddoriaeth yn 1974. Wedi hynny bu'n dysgu yn Ysgol Hirael, Bangor, Ysgol Uwchradd Dinbych, Ysgol Twm o'r Nant, Dinbych, a Cerdd Cydweithredol Sir Ddinbych a Chanolfan Iaith Sir Ddinbych.
Derbyniodd radd er anrhydedd Doethur mewn Cerddoriaeth gan Brifysgol Bangor ym mis Rhagfyr 2023. Yn y seremoni fe roddodd araith, gan siarad am ei mwynhad o hyfforddi cannoedd o blant a phobl ifanc.[4]
Bywyd personol
golyguRoedd yn byw yn ardal Prion, Dinbych, gyda'i gŵr Eifion Lloyd Jones. Mae ganddynt pedwar o blant - Angharad, Elysteg, Ynyr a Rhys.[5]
Bu farw yn ei chartref Y Gelli, yn 70 mlwydd oed, wedi cyfnod o salwch.[6] Cynhaliwyd angladd i'w theulu agos fore Iau, 18 Ionawr 2024, cyn gwasanaeth cyhoeddus o ddiolch yn Y Capel Mawr, Dinbych, am 2.00 y prynhawn.[1]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 "Click here to view the tribute page for Leah JONES". funeral-notices.co.uk (yn Saesneg). Cyrchwyd 2024-02-29.
- ↑ Gwefan Saesneg y BBC.
- ↑ "'Y llais pur, bendigedig': Leah Owen wedi marw'n 70 oed". Newyddion S4C. Cyrchwyd 6 Ionawr 2024.
- ↑ "Y gantores Leah Owen wedi marw yn 70 oed". BBC Cymru Fyw. 2024-01-04. Cyrchwyd 2024-01-04.
- ↑ "www.gwales.com - 9781908801166, Codi'r To". www.gwales.com. Cyrchwyd 2019-10-30.
- ↑ "'Y llais pur, bendigedig': Leah Owen wedi marw'n 70 oed". newyddion.s4c.cymru. 2024-01-04. Cyrchwyd 2024-01-04.