Eifion Lloyd Jones
Darlledwr a darlithydd yw Eifion Lloyd Jones (ganwyd 13 Hydref 1948). Mae'n Lywydd Llys yr Eisteddfod Genedlaethol ers 2017.
Eifion Lloyd Jones | |
---|---|
Ganwyd | 13 Hydref 1948 Felinfach |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | darlledwr, academydd |
Plaid Wleidyddol | Plaid Cymru |
Priod | Leah Owen |
Bywgraffiad
golyguGanwyd Eifion yn Felinfach ac fe'i magwyd ym Mhorthmadog. Bu'n gweithio i HTV Cymru fel cyflwynydd a chynhyrchydd teledu ac roedd yn gyfrifol am ddarllediadau allanol o eisteddfodau a gwyliau Cymru. Bu hefyd yn gweithio fel uwch-ddarlithydd yn Adran Gyfathrebu'r Coleg Normal, Bangor. Bu'n ymgeisydd gwleidyddol dros Blaid Cymru.[1]
Mae wedi cyhoeddi sawl llyfr yn cynnwys Byd y Teledu a dwy nofel, Lleucu a Blas yr Afal.
Mae'n lefarydd i fudiad Dyfodol yr Iaith.[2]
Sylwadau dadleuol
golyguRoedd yn gadeirydd y Pwyllgor Gwaith yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Dinbych 2001. Yn ei araith fel Llywydd y Dydd gwnaeth sylwadau dadleuol ynglŷn â'r syniad o gyfyngu nifer y plant o aelwydydd di-Gymraeg a dderbynir i ysgolion cyfrwng Cymraeg. Beirniadwyd y sylwadau gan Heini Gruffudd, cadeirydd Rhieni Dros Addysg Gymraeg a ddywedodd fod "dyfodol yr iaith Gymraeg yn dibynnu ar rieni di-Gymraeg i anfon eu plant i ysgolion Cymraeg"[3]
Yn Eisteddfod Genedlaethol 2018, cafodd ei feirniadu am sylw a wnaeth yn ystod Y Gymanfa Ganu ar y nos Sul wrth gyflwyno Iori Roberts, llywydd Cymru a'r Byd, i'r gynulleidfa, gan ddweud ei fod wedi "gweithio'n Uganda ac Ysgol Emrys ab Iwan, Abergele - a dwi ddim yn siŵr lle roedd yr anwariaid gwaethaf", cyn gwneud sylw tebyg am ogledd Lloegr. Fe'i feirniadwyd gan nifer am y sylw ond dywedodd fod "rhai pobl wedi methu deall y cyd-destun". Dywedodd mai "jôc" oedd y sylw i fod ac nid oedd yn derbyn unrhyw awgrym ei fod yn sylw hiliol.[4] Fe'i ail-etholwyd fel Llywydd ar y dydd Gwener canlynol er y cafwyd cynnig gan Marc Phillips i'w atal.[5] Daeth datganiad arall ar y dydd Sul gan ddweud ei fod "ymddiheuro am unrhyw bryder neu loes a achoswyd yn anfwriadol gan sylwadau o'm eiddo"[6]. Ar ddydd Mawrth, 14 Awst cyhoeddodd Dylan Foster Evans ei fod wedi dileu ei aelodaeth o Lys yr Eisteddfod am nad oedd yr ymddiheuriad yn un diamod.[7] Daeth trydydd datganiad ganddo ar ddydd Mercher, 15 Awst gan ddweud ei fod yn "ymddiheuro'n llawn a diamod am y gair a ddefnyddiais yn seremoni Cymru a'r Byd, a gallaf sicrhau pawb fy mod yn gyfangwbl yn erbyn hiliaeth o unrhyw fath."[8]
Bywyd personol
golyguMae'n byw yn Prion, Dinbych, yn briod â'r gantores Leah Owen ac mae ganddynt bedwar o blant.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Y Lolfa - Eifion Lloyd Jones. Y Lolfa. Adalwyd ar 13 Awst 2018.
- ↑ Mudiad yn galw am drafod blaenoriaethau ieithyddol S4C , BBC Cymru, 26 Gorffennaf 2018. Cyrchwyd ar 13 Awst 2018.
- ↑ Rhybudd Llywydd ynglŷn â derbyn y di-Gymraeg , BBC Cymru, 11 Awst 2001. Cyrchwyd ar 13 Awst 2018.
- ↑ Pobl wedi 'camddeall' sylwadau yn ôl Eifion Lloyd Jones , BBC Cymru Fyw, 10 Awst 2018. Cyrchwyd ar 13 Awst 2018.
- ↑ Ail-ethol Eifion Lloyd Jones , Golwg360, 10 Awst 2018. Cyrchwyd ar 13 Awst 2018.
- ↑ Llywydd Llys yr Eisteddfod yn ymddiheuro am ei sylwadau , BBC Cymru Fyw, 12 Awst 2018. Cyrchwyd ar 13 Awst 2018.
- ↑ Dileu aelodaeth wedi sylwadau Llywydd Llys yr Eisteddfod , BBC Cymru Fyw, 14 Awst 2018. Cyrchwyd ar 16 Awst 2018.
- ↑ Trydydd ymddiheuriad Llywydd y Llys , Golwg360, 15 Awst 2018. Cyrchwyd ar 16 Awst 2018.