Lecwydd
Pentref yng nghymuned Llanfihangel-y-pwll a Lecwydd, Bro Morgannwg, Cymru, yw Lecwydd[1] (Saesneg: Leckwith).[2]
Math | pentrefan |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Llanfihangel-y-pwll a Lecwydd |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 51.461°N 3.214°W |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Jane Hutt (Llafur) |
AS/au y DU | Alun Cairns (Ceidwadwr) |
- Mae'r erthygl hon yn cyfeirio at bentref ym Mro Morgannwg; am yr ardal o'r un enw yng Nghaerdydd, gweler Lecwydd, Caerdydd.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Jane Hutt (Llafur) ac yn Senedd y DU (San Steffan) gan Alun Cairns (Ceidwadwr).[3][4]
Tarddiad yr enw
golyguCredir bod yr enw yn deillio o ffurf fer ar yr enw personol Helygwydd (ar Helygwydd/Helycwydd cymharer Tegwyn/Tecwyn). Ni wyddys pwy oedd Helygwydd, ond gall mai sant o Gymro ydoedd. Ystyr yr enw fyddai '[man sy'n eiddo i] Helygwydd'.[5]
Gwelir weithiau y ffurfiau Llechwydd a Llechwedd mewn ffynonellau Cymraeg o'r 19g. Honnid bod yr enw Llechwedd yn cyfeirio at y llethr serth sy'n codi o lan orllewinol afon Elái ym mhlwyf Lecwydd, ac mai ffurf ar Llechwedd oedd Lecwydd.[6] Ond nid oes modd olrhain cyswllt ieithyddol rhwng Lecwydd a llechwedd ac mae'n debyg fod y ffurf Llechwedd yn enghraifft o darddiad gwerin.[7] Er hynny, mae'r esboniad hwn yn dal i'w weld mewn rhai mannau.[8]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Enwau Lleoedd Safonol Cymru" Archifwyd 2023-03-30 yn y Peiriant Wayback, Comisiynydd y Gymraeg; adalwyd 26 Ebrill 2023
- ↑ British Place Names; adalwyd 25 Ebrill 2023
- ↑ Gwefan y Cynulliad;[dolen farw] adalwyd 24 Chwefror 2014
- ↑ Gwefan parliament.uk; adalwyd 24 Chwefror 2014
- ↑ Gwynedd O. Pierce, The Place-names of Dinas Powys Hundred. Cardiff: University of Wales Press, 1968 ISBN 0-7083-0338-2, tt. 49–52.
- ↑ Er enghraifft, Samuel Lewis, A Topographical Dictionary of Wales, cyf. 2 (London, 1840). Gw. hefyd Owen Jones, Cymru: Yn Hanesyddol, Parthedegol a Bywgraphyddol (London: Blackie & Son, 1875), t. 188.
- ↑ Dywedir am yr enw Leckwith: 'popularly believed to be W(elsh) llechwedd 'slope' ', yn Hywel Wyn Owen a Richard Morgan, Dictionary of the Place-Names of Wales (Gwasg Gomer, 2007), t. 212.
- ↑ Er enghraifft, Cyngor Caerdydd, 'Dyffryn Elái: Teithiau Cerdded Traws-ffiniol, Parc Trelái i Goedwig Lecwydd' Archifwyd 2016-03-05 yn y Peiriant Wayback; gwelwyd 10 Chwefror 2015.