Lecwydd, Caerdydd

Ardal yng ngorllewin Caerdydd yw Lecwydd (Saesneg: Leckwith). Mae'n gartref i Stadiwm Dinas Caerdydd, Stadiwm Chwaraeon Rhyngwladol Caerdydd, Ysgol Uwchradd Fitzalan ac Ysgol Gymraeg Pwll Coch. Mae'n rhannu ei henw â phentref Lecwydd, sydd dros afon Elái ym Mro Morgannwg. Yn hanesyddol, roedd plwyf Lecwydd yn cynnwys tir ar ochr Caerdydd i afon Elái: mae'r ardal honno'n cyfateb yn fras i'r ardal a ffinnir heddiw gan afon Elái, Heol Lecwydd, Sloper Road, Clive Street, Ferry Road, a Bae Caerdydd. Ond gan nad yw Lecwydd Caerdydd yn ardal sydd â chydnabyddiaeth swyddogol (mae wedi ei rhannu rhwng cymunedau Treganna a Grangetown) nid oes ffiniau pendant iddi.

Lecwydd, Caerdydd
Mathmaestref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirTreganna, Grangetown Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.47°N 3.21°W Edit this on Wikidata
Map
Mae'r erthygl hon yn cyfeirio at ardal yng Nghaerdydd; am y pentref o'r un enw ym Mro Morgannwg, gweler Lecwydd
Hen fap a luniwyd yn 1832 gan y Comisiwn Ffiniau.

Credir bod yr enw Lecwydd yn deillio o ffurf fer ar yr enw personol Helygwydd (gw. yr erthygl ar Lecwydd am rhagor o wybodaeth).

Trafnidiaeth golygu

Caiff Lecwydd ei chyrchu'n uniongyrchol o'r A4232 sy'n cysylltu Bae Caerdydd a Croes Cwrlwys, a chyffordd 33 yr M4. Lleolir prif depo Bws Caerdydd yn yr ardal, a nhw sy'n rhedeg gwasanaethau Lecwydd 12/13 i'r dwyrain o ganol y ddinas, a gwasanaethau cylch 1/2.

Gwasanaethir yr ardal gan orsaf reilffordd Parc Ninian, gyda threnau'n rhedeg o orsaf Radur drwy orsaf Tyllgoed ac i'r de i Gaerdydd Canolog.

Dolenni allanol golygu