Lehendakari
Lehendakari, weithiau Lendakari (Basgeg, yn golygu "y cyntaf") yw'r term a ddefnyddir am Arlywydd llywodraeth Cymuned Ymreolaethol Gwlad y Basg. Weithiau defnyddir Eusko Jaurlaritzako Lehendakari ("Arlywydd y Llywodraeth Fasgaidd"). Defnyddid yr un term am arweinydd y llywodraeth Fasgaidd yn ystod Rhyfel Cartref Sbaen, ac wedyn mewn alltudiaeth.
- 1936-1960: 1af José Antonio Aguirre y Lecube (mewn alltudiaeth o 1937 ymlaen)
- 1960-1979: 2il Jesús María de Leizaola Sánchez (mewn alltudiaeth)
- * 1978: Juan de Ajuriaguerra Ochandiano (dros dro, am ychydig oriau)
- * 1978-1979: Ramón Rubial Cavia (aelod o'r Partido Socialista de Euskadi, ystyrid yn arlywydd y Cyngor Basgaidd, oedd yn paratoi am ymreolaeth, yn hytrach na Lehendakari)
- 1979-1985: 3ydd Carlos Garaikoetxea Urriza (EAJ-PNV)
- 1985-1999: 4ydd José Antonio Ardanza Garro (EAJ-PNV)
- 1999-2009: 5ed Juan José Ibarretxe Markuartu (EAJ-PNV)
- 2009-2012: 6ed Patxi López (PSE-EE)
- 2012- presennol: 7fed Iñigo Urkullu Rentería (EAJ-PNV)