Juan José Ibarretxe

Gwleidydd o Wlad y Basg yw Juan José Ibarretxe Markuartu (ganed 15 Mawrth 1957). Mae'n aelod o Blaid Genedlaethol Gwlad y Basg (EAJ-PNV). Ef oedd Lehendakari (arlywydd) presennol Cymuned Ymreolaethol Gwlad y Basg rhwng 1999 a 2009.

Juan José Ibarretxe
GanwydJuan José Ibarretxe Markuartu Edit this on Wikidata
15 Mawrth 1957 Edit this on Wikidata
Laudio Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Gwlad y Basg Gwlad y Basg
Alma mater
  • Faculty of Law (University of the Basque Country) Edit this on Wikidata
Galwedigaethgwleidydd, economegydd Edit this on Wikidata
SwyddLehendakari, Vicepresident of the Basque Autonomus Community, mayor of Laudio-Llodio, deputy of the Basque Parliament, deputy of the Basque Parliament, deputy of the Basque Parliament, deputy of the Basque Parliament, deputy of the Basque Parliament, deputy of the Basque Parliament, deputy of the Basque Parliament Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolPlaid Genedlaethol Gwlad y Basg Edit this on Wikidata
Gwobr/auhincha de argentino de quilmes Edit this on Wikidata

Ganed ef yn Laudio yn nhalaith Araba. Graddiodd mewn economeg o Brifysgol Bilbao, yn awr Prifysgol Gwlad y Basg. Dechreuodd ei yrfa fel gwleidydd yn 1979, pan enillodd etholiad i ddod yn faer Laudio. Wedi cyfnod fel dirprwy Lehendakari, daeth yn Lehendakari ar 2 Ionawr 1999.

Yn 2003, cyflwynodd Gynllun Ibarretxe i'r senedd Fasgaidd, cynllun fyddai'n rhoi mesur helaeth o hunanlywodraeth i'r Basgiaid. Derbyniwyd y cynllun gan y senedd Fasgaidd, ond gwrthodwyd ef gan Gyngres Sbaen yn 2005.