Plaid Genedlaethol Gwlad y Basg

Plaid Genedlaethol Gwlad y Basg (Basgeg: Euzko Alderdi Jeltzalea' (EAJ), Sbaeneg: Partido Nacionalista Vasco' (PNV) yw'r blaid genedlaethol Fasgaidd fwyaf, a'r blaid fwyaf yng Ngwlad y Basg. Ei henw swyddogol yn Sbaen yw Euzko Alderdi Jeltzalea-Partido Nacionalista Vasco (EAJ-PNV), ac yn Ffrainc Euzko Alderdi Jeltzalea- Parti Nationaliste Basque (EAJ-PNB).

Plaid Genedlaethol Gwlad y Basg
Delwedd:Logo EAJ-PNV (2012).png, Logo EAJ-PNV (1992).svg, Logo EAJ-PNV (1977).svg, Isotipo EAJ-PNV (2012).png, Isotipo EAJ-PNV (1992).svg
Enghraifft o'r canlynolBasque political party Edit this on Wikidata
IdiolegCenedlaetholdeb Basgaidd, regionalism, pro-Europeanism, Democratiaeth Gristnogol, Linguistic nationalism Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1895 Edit this on Wikidata
Pennaeth y sefydliadPresident of the Basque Nationalist Party Edit this on Wikidata
SylfaenyddSabino Arana Edit this on Wikidata
Aelod o'r  canlynolQ111187242 Edit this on Wikidata
PencadlysSabin Etxea Edit this on Wikidata
GwladwriaethSbaen, Ffrainc Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.eaj-pnv.eus Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Sabin extea, pencadlys Plaid Genedlaethol Gwlad y Basg (Bilbo)

Sefydlwyd y blaid yn 1895 gan Sabino Arana Goiri; hi yw'r ail-hynaf o bleidiau gwleidyddol Sbaen ar ôl y PSOE. Mae'r enw Basgeg, "Euzko Alderdi Jeltzalea", yn golygu "Plaid Fasgaidd cefnogwyr y J.E.L.", lle mae "J.E.L." yn dod o Jaungoikoa Eta Lagizarrak ("Duw a'r Hen Ddeddfau"), yn cyfeirio ar ddechreuadau'r blaid fel plaid Gatholig i amddiffyn traddodiadau Basgaidd.

Heddiw mae'n ei diffinio ei hun fel plaid Fasgaidd ddemocrataidd ac anenwadol, yn y canol neu canol-chwith ar y sbectrwm chwith-de, ac yn anelu at annibyniaeth i Wlad y Basg. Mae'n ymgyrchu nid yn unig yng Nghymuned Ymreolaethol Gwlad y Basg ond yn Navarra ac yn y tiriogaethau Basgaidd yn Ffrainc. Mae ganddi 28 o'r 75 sedd yn y senedd Fasgaidd. Mae wedi bod yn brif blaid llywodraethol Senedd Euskadi ers sefydlu'r Senedd yn dilyn y refferendwm dros Stadud Ymreolaeth Gwlad y Basg yn 1979.