Leigh Halfpenny
Chwaraewr Rygbi'r Undeb Cymru yw Stephen Leigh Halfpenny (ganwyd 22 Rhagfyr 1988). Mae Halfpenny yn chwarae rygbi rhanbarthol gyda Gleision Caerdydd a chafodd ei gap cyntaf dros Gymru yn 2008 yn erbyn De Affrica.
Leigh Halfpenny | |
---|---|
Ganwyd | 22 Rhagfyr 1988 Abertawe |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig |
Alma mater | |
Galwedigaeth | chwaraewr rygbi'r undeb |
Taldra | 178 centimetr |
Pwysau | 85 cilogram |
Chwaraeon | |
Tîm/au | Tîm rygbi'r undeb cenedlaethol Cymru, RC Toulonnais, Clwb Rygbi Caerdydd, Rygbi Caerdydd, Y Llewod Prydeinig a Gwyddelig, Wales national under-18 rugby union team, Tîm rygbi'r undeb cenedlaethol Cymru dan 20 oed |
Safle | Asgellwr |
Gwlad chwaraeon | Cymru |
Mae'n enedigol o Gorseinon, ger Abertawe ac yn gyn-ddisgybl o Ysgol Gynradd Pontybrenin ac Ysgol Uwchradd Penyrheol.
Enillodd ei ganfed cap dros Gymru ar 3 Gorffennaf 2021 mewn gêm yn erbyn Canada. Yn anffodus cafodd anaf i'w benglîn yn y munud cyntaf a bu rhaid iddo adael y cae.[1]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Cymru 68 Canada 12: Gwledd o rygbi i'r cefnogwyr , BBC Cymru Fyw, 3 Gorffennaf 2021.