Bae Biskaia
Bae mawr ger arfordir Ffrainc a Sbaen yw Bae Biskaia, hefyd Bae Vizcaya neu Bae Biscay (Sbaeneg: golfo de Vizcaya neu golfo de Gascuña, Ffrangeg: Golfe de Gascogne, Basgeg: Bizkaiko Golkoa). Cymer ei enw o dalaith Biskaia yng Nghymuned Ymreolaethol Gwlad y Basg. Weithiau defnyddir Gwlff Gasgwyn amdano; mae'r Atlas Cymraeg Newydd yn dangos "Gwlff Gasgwyn" fel y rhan ddeheuol o'r bae.[1] Mae'r bae, sy'n rhan o Gefnfor yr Iwerydd, yn ymestyn o benrhyn Ajo yn Cantabria (Sbaen) hyd dde Llydaw, ac yn cynnwys arfordir Gwlad y Basg ac Aquitaine. Ei led yw tua 320 km (199 milltir).
![]() | |
Math |
bae ![]() |
---|---|
Enwyd ar ôl |
Biskaia, Gasgwyn ![]() |
| |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol |
North Atlantic Ocean ![]() |
Gwlad |
![]() |
Arwynebedd |
223,000 km² ![]() |
Cyfesurynnau |
45.5°N 4.3333°W ![]() |
Llednentydd |
rivière d'Étel, Q511413, Artibai, Afon Gwilun, Seudre, Oria, Ter, Uhabia, Untxin, Escudo, rivière de Pont-l'Abbé, Afon Loire, Afon Bidasoa, Saja, Deva, Navia ![]() |
![]() | |
Ceir nifer o borthladdoedd pwysig yma, yn enwedig Bilbo, Pasajes a Burdeos. Yr unig afon fawr sy'n llifo iddo yw Afon Garonne; ymhlith yr afonydd eraill mae Afon Nervión ac Afon Bidasoa, sy'n ffurfio'r ffîn rhwng Ffrainc a Sbaen.
Mae'r bae yn ddwfn ac yn tueddol i gael tywydd mawr ac felly'n gallu bod yn beryglus i longau. Mae'n bysgodfa pwysig: ymhlith y pysgod masnachol a ddelir yno ceir anchovies, cod, tiwna a sardîns.
CyfeiriadauGolygu
- ↑ Jones, Gareth (gol.). Yr Atlas Cymraeg Newydd (Collins-Longman, 1999), t. 44.