Mae Leng Ouch (ganwyd 1975) yn ymgyrchydd hinsawdd o Cambodia. Treuliodd ei blentyndod cynnar yn y coedwigoedd yng Nghambodia a daeth yn actifydd yn erbyn torri coed (logio) anghyfreithlon yng nghoedwigoedd y wlad.[1][2] Mae'n fwyaf adnabyddus am recordio-cudd gweithgareddau logio anghyfreithlon yn ei wlad enedigol.[3]

Leng Ouch
Ganwyd1975 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cambodia Cambodia
Galwedigaethamgylcheddwr Edit this on Wikidata
Gwobr/auGwobr Amgylchedd Goldman Edit this on Wikidata

Bywyd cynnar

golygu

Treuliodd Leng Ouch y rhan fwyaf o'i blentyndod yng nghyfnod y Khmer Rouge yn cuddio yn jyngl Cambodia gan ddechrau ar ei addysg ar ôl i'r teulu symud i Phnom Penh ym 1980. Gweithiodd yn galed ac enillodd ysgoloriaeth yn y gyfraith gan ganiatáu iddo ymuno â llawer o sefydliadau hawliau dynol gan ddechrau ei yrfa fel ymgyrchydd.[4]

Sefydlodd Leng Ouch Dasgluoedd Hawliau Dynol Cambodia (CHRTF), sefydliad ar gyfer brwydro yn erbyn datgoedwigo yn Cambodia.[5] Yn ystod y 2000au a 'r 2010au aeth Leng mewn rol cudd i sefyllfaoedd peryglus, yn aml gan dynnu lluniau a chofnodi tystiolaeth o logio anghyfreithlon[6] a arweiniodd at ganslo 23 consesiwn tir a datguddio gwaith y cwmniau logio mawr.[7] Yn aml, defnyddiai guddwisgoedd i'w gynorthwyo yn ei waith. Dros y blynyddoedd, datgelodd Leng miloedd o droseddau ac atafaelwyd offer pren a logio oddi ar gwmniau a weithredant yn anghyfreithlon.[8] Mae Leng wedi wynebu peryglon mawr yn ei waith ac arestiwyd ef ac ymgyrchwyr eraill sawl gwaith.[9][10]

Gwobrau

golygu

Dyfarnwyd Gwobr Amgylcheddol Goldman i Leng yn 2016 am ei waith yn datgelu llygredd a logio anghyfreithlon yn Cambodia. [11]

Cyfeiriadau

golygu
  1. "Leng Ouch". Goldman Environmental Foundation (yn Saesneg). Cyrchwyd 2021-04-20.
  2. Ives, Mike (2016-04-22). "Fighting to Save Forests in Cambodia, an Activist Puts Himself at Risk". The New York Times (yn Saesneg). ISSN 0362-4331. Cyrchwyd 2021-04-20.
  3. "Leng Ouch - 2017 Asia Game Changers". Asia Society (yn Saesneg). Cyrchwyd 2021-04-20.
  4. "Leng Ouch". Goldman Environmental Foundation (yn Saesneg). Cyrchwyd 2021-04-20.
  5. "Leng Ouch". Pulitzer Center (yn Saesneg). Cyrchwyd 2021-04-20.
  6. "'Even though I know my life is at risk, I still try to save the forest'". the Guardian (yn Saesneg). 2016-04-18. Cyrchwyd 2021-04-20.
  7. "Conservation Hero: Leng Ouch". One Earth. Cyrchwyd 2021-04-20.
  8. "'Even though I know my life is at risk, I still try to save the forest'". the Guardian (yn Saesneg). 2016-04-18. Cyrchwyd 2021-04-20.
  9. "Goldman Prize-winning Cambodian activist arrested, released in Cambodia". Mongabay Environmental News (yn Saesneg). 2020-03-24. Cyrchwyd 2021-04-20.
  10. "Cambodian environmental activists reportedly arrested". Mongabay Environmental News (yn Saesneg). 2021-02-05. Cyrchwyd 2021-04-20.
  11. Cole, Laura. "Leng Ouch: investigative reporter and activist - Geographical Magazine". geographical.co.uk (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-11-25. Cyrchwyd 2021-04-20.