Leon Battista Alberti
Dyneiddiwr a phensaer Eidalaidd oedd Leon Battista Alberti (14 Chwefror 1404 – 25 Ebrill 1472) sydd yn nodedig am ei ddamcaniaethu celfyddydol. Fe'i ystyrir yn esiampl o homo universalis y Dadeni.
Leon Battista Alberti | |
---|---|
Paentiad olew o Leon Battista Alberti o'r 17g. | |
Ganwyd | Leon Battista degli Alberti 14 Chwefror 1404 Genova |
Bu farw | 25 Ebrill 1472 Rhufain |
Dinasyddiaeth | Gweriniaeth Genova |
Alma mater | |
Galwedigaeth | athronydd, ieithydd, cryptograffwr, bardd, pensaer, damcaniaethwr pensaernïol, damcaniaethwr cerddoriaeth, cerddolegydd, cerflunydd, llenor, cynllunydd medalau, arlunydd, mathemategydd, dramodydd, organydd, gwyddonydd, arlunydd, damcaniaethwr celf, dyneiddiwr, swyddog, mabolgampwr |
Adnabyddus am | Basilica di Sant'Andrea, San Sebastiano, De pictura, Apologi centum, Tempio Malatestiano, De re aedificatoria, Santa Maria Novella, Palazzo Rucellai, De statua |
Mudiad | y Dadeni Eidalaidd |
Bywyd cynnar ac addysg
golyguGaned yn Genovaa, Gweriniaeth Genovaa, yn fab anghyfreithlon i fanciwr o Fflorens. Astudiodd y gyfraith ym Mhrifysgol Bologna, ond tynnwyd ei sylw yn fwyfwy gan y clasuron.
Ysgolheictod a llenydda
golyguYmhlith ei ysgrifeniadau, sydd yn nodweddiadol o ddyneiddiaeth yr oes, mae comedi yn yr iaith Ladin, a chasgliad o ymgomion ac ysgrifau ar bynciau moesol o'r enw Intercenales. Ysgrifennodd hefyd draethawd o'r enw Della famiglia sydd yn ymwneud â chadw tŷ, rheoli ystadau, priodas, a magu plant. O ganlyniad i'w ddoniau llenyddol, cafodd Alberti waith yn Llys y Pab.[1]
Pensaernïaeth a chelf
golyguAeth Alberti gyda Llys y Pab i Weriniaeth Fflorens ym 1432. Yno, cyfarfu â dyneiddwyr ac arlunwyr amlwg y ddinas. Er nad oedd yn medru Tysganeg fel ei iaith gyntaf, cyflawnodd Grammatica della lingua toscana, y gramadeg cyntaf o'r iaith honno.
Prif arbenigedd Alberti, mae'n debyg, oedd pensaernïaeth, a châi ddylanwad mawr ar ddamcaniaeth bensaernïol y Dadeni. Ysgrifennodd y traethawd Lladin De re aedificatoria (1452) ar sail syniadaeth y pensaer Rhufeinig Vitruvius. Cynlluniodd Alberti nifer o adeiladau, gan gynnwys y Palazzo Rucellai yn Fflorens a Basilica Sant'Andrea ym Mantova. Ail-fodelodd hefyd, yn yr arddull clasurol, y tu allan i Tempio Malatestiano yn Rimini.
Bu hefyd yn arlunydd ac yn gerflunydd o nod. Mae ei draethawd Elementa picturae (1435) yn disgrifio egwyddorion y persbectif llinellog a gyflwynwyd gan y cerflunydd Donatello a'r paentiwr Masaccio.
Diwedd ei oes
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ Charles G. Nauert, Historical Dictionary of the Renaissance (Lanham, Maryland: The Scarecrow Press, 2004), t. 7.
- ↑ (Saesneg) Leon Barrista Alberti. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 13 Medi 2021.