Mae Lesneven (Ffrangeg: Lesneven) yn gymuned yn Departamant Penn-ar-bed (Ffrangeg Finistère), Llydaw. Mae'n ffinio gyda Le Folgoët, Kernouës, Ploudaniel, Plouider, Saint-Méen ac mae ganddi boblogaeth o tua 7,377 (1 Ionawr 2021).

Lesneven
Mathcymuned Edit this on Wikidata
Br-Lesneven-Y-M D-Wikikomzoù.flac Edit this on Wikidata
PrifddinasLesneven Edit this on Wikidata
Poblogaeth7,377 Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraethClaudie Balcon Edit this on Wikidata
Gefeilldref/iKežmarok Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladBaner Llydaw Llydaw
Arwynebedd10.27 km² Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaAr Folgoad, Kernouez, Plouzeniel, Plouider, Sant-Neven Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau48.5719°N 4.3222°W Edit this on Wikidata
Cod post29260 Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y Llywodraeth
Maer Lesneven Edit this on Wikidata
Pennaeth y LlywodraethClaudie Balcon Edit this on Wikidata
Map

Yn yr erthygl hon, cyfieithir y termau brodorol kumunioù (Llydaweg) a communes (Ffrangeg) i "gymuned" yn Gymraeg.

Poblogaeth golygu

 

Hanes golygu

Mae gwreiddiau Lesneven yn perthyn i'r cyfnod o fewnfudo'r Brythoniaid o dde-orllewin Prydain yn y 5ed a'r 6g, ystryr enw'r dref yw Llys-Ifan yn Gymraeg ar ôl arweinydd milwrol honedig o'r cyfnod.[1]

Lesneven oedd y dref gaerog a oedd yn rheoli Dugaeth Leon yn ystod yr Oesoedd Canol. Mae'r castell yn awr wedi mynd, ond mae llawer o adeiladau o'r 15fed-18g yn dal i gael eu gweld yn y gymuned. Mae Amgueddfa Leon yma. Mae'r dref yn awr yn gweithredu fel canolfan farchnad a gwasanaeth ar gyfer yr ardal wledig o'i chwmpas.

Iaith Lydewig golygu

Lansiodd Lesneven cynllun iaith Ya d'ar brezhoneg yng Ngorffennaf 2007.

Yn 2008 roedd 19.08% o blant ysgol gynradd yn derbyn addysg ddwyieithog.[2]

Cysylltiadau Rhyngwladol golygu

Mae Lesneven wedi'i gefeillio â:

Gweler hefyd golygu

Cymunedau Penn-ar-Bed

Cyfeiriadau golygu

  1. "Cotes des Legendes". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2007-08-25. Cyrchwyd 2016-11-10.
  2. Enseignement bilingue
  3. "Oficiálne stránky mesta Kežmarok". kezmarok.sk. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-03-02. Cyrchwyd 8 February 2010.
 
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: