Lewis Rees

gweinidog gyda'r Annibynwyr (1710 -1800)

Roedd Lewis Rees (2 Mawrth 171021 Mawrth 1800) yn weinidog gyda'r Annibynwyr.[1]

Lewis Rees
Ganwyd2 Mawrth 1710 Edit this on Wikidata
Glyn-nedd Edit this on Wikidata
Bu farw21 Mawrth 1800 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethgweinidog yr Efengyl Edit this on Wikidata
PlantAbraham Rees Edit this on Wikidata

Cefndir

golygu

Ganwyd Rees yn Glynllwydrew, Cwmgwrach, Glyn-nedd yn blentyn i Rees Edward Lewis amaethwr cysurus ei fyd.[2] Derbyniodd Rees addysg dda am ei gyfnod. Mynychodd Ysgol Ramadeg Joseph Simons yn Abertawe ac Ysgol Ramadeg Pen-y-bont ar Ogwr o dan ofalaeth Rees Price.[3]

 
Hen Gapel, Llanbrynmair

Roedd teulu Rees yn un grefyddol iawn, bu ei daid Edward Lewis yn offeiriad ar eglwys Blwyf Penderyn ac roedd ei rieni yn aelodau triw gyda'r Annibynwyr yn achos Blaen Gwrach. Ymunodd Rees hefyd a chapel ei rieni.

Gan ei fod yn fachgen addysgedig a dawnus casglodd aelodau'r achos arian i dalu ei dreuliau i hyfforddi am y weinidogaeth yn athrofa Vavasor Griffith ym Maes-gwyn, Sir Faesyfed. Dim ond ychydig fisoedd bu ym Maesgwyn gan fod Vavasor Griffith yn credu ei fod yn gwastraffu ei amser mewn dosbarth pan fo eneidiau i'w hachub. Meddai wrth ei fyfyriwr ifanc "Y mae angen mawr am weithwyr yng ngwinllan Crist yng Nghymru, ac yr ydych chwithau yn ymddangos yn weithiwr parod i waith; ac yr wyf yn barnu mai eich dyletswydd yw myned at y gwaith yn ddi-oed." Yn fuan wedyn cafodd wahoddiad i fod yn arweinydd achos yr Annibynwyr oedd yn cyfarfod ar fferm Tŷ Mawr, Llanbryn-mair gan gychwyn ar y gwaith ym 1734. Cafodd Rees ei ordeinio yn weinidog yn ei hen gapel, Blaen Gwrach gan ei gyn gweinidog Henry Davies ym 1738. Agorodd capel yn Llanbrynmair, Yr Hen Gapel, ym 1739.[4]

Pan aeth Rees i Lanbrynmair gyntaf, prin oedd presenoldeb ymneilltuaeth nac Anghydffurfiaeth yng ngogledd Cymru. Dim ond chwe chapel oedd gan yr holl enwadau rhyngddynt trwy'r chwe sir ogleddol. Roedd hefyd ychydig o dai annedd wedi eu cofrestru fel llefydd lle caniatawyd addoliad. Wedi clywed am lwyddiant ei waith yn y de, gwahoddodd Rees Howel Harris i'r gogledd ar daith. Trwy roi'r gwahoddiad i Harris gellir dweud mai gweinidog ifanc yr Annibynwyr oedd yn gyfrifol am sbarduno twf mawr Methodistiaeth yn y rhanbarth wedi ymweliad Harris.[5] Ond rhoddodd y diwygiad Methodistaidd sbardun i'r enwadau eraill hefyd ac oni bai bod Rees wedi gwahodd Harris, mae'n bosib y byddai ymneilltuaeth y gogledd wedi marw allan.[4]

Ym 1745 symudodd Rees i wasanaethu capel Maesyronnen, Brycheiniog cyn dychwelyd i Lanbrynmair ym 1748. Ym 1795 ymadawodd â Llanbrynmair eto gan fynd i wasanaethu achos yn Llangyfelach, Sir Forgannwg, lle arhosodd am weddill ei oes.

Ym 1740 priododd Rees ag Esther Penri fu iddynt pum mab a merch o blant. Yn ôl Abraham, eu hail fab, roedd Esther yn ddisgynnydd i'r merthyr Piwritanaidd John Penri.[6]

Marwolaeth

golygu

Bu farw yn y Mynydd-bach, Abertawe yn 90 mlwydd oed, a chladdwyd ei weddillion ym mynwent capel yr Annibynwyr, Mynyddbach.[7]

Cyfeiriadau

golygu
  1. REES, LEWIS (1710 - 1800), gweinidog gyda'r Annibynwyr. Y Bywgraffiadur Cymreig. Adferwyd 22 Hyd 2020
  2. Yr Adolygydd, Medi 1852, BYWYD A NODWEDD LEWIS REES
  3. Jones, John Morgan, 1838-1921; Morgan, William Y Tadau Methodistaidd, Abertawe 1895, tud. 97, erthygl Howell Harris
  4. 4.0 4.1 Y Llenor Cyf. 13, Rh. 1-4, 1934 DEUCANMLWYDDIANT LEWIS REES YN LLANBRYNMAIR. R T Jenkins
  5. Cronicl y cymdeithasau crefyddol; Cyf. LI rhif. 600 - Ebrill 1893 tud 106. Y PARCH. LEWIS REES. GAN MR. DAVID PEATE
  6. REES, ABRAHAM (1743 - 1825), gwyddoniadurwr. Y Bywgraffiadur Cymreig. Adferwyd 22 Hyd 2020
  7. "LEWIS REES MYNYDDBACH - The Cambrian". T. Jenkins. 1900-07-06. Cyrchwyd 2020-10-22.