Mae Leydy Araceli Pech Marín, a elwir yn Leydy Pech, (ganwyd 1965) yn wenynwr Mecsicanaidd ac yn ymgyrchydd amgylcheddol o darddiad Maya. Dyfarnwyd iddi Wobr Amgylcheddol Goldman yn 2020 am ei gwaith yn erbyn plannu ffa soia trawsenynnol ym Mhenrhyn Yucatán.

Leydy Pech
Ganwyd1965 Edit this on Wikidata
Hopelchén Municipality Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Mecsico Mecsico
Galwedigaethamgylcheddwr, gwenynwr Edit this on Wikidata
Gwobr/auGwobr Amgylchedd Goldman Edit this on Wikidata

Gwenynwr

golygu
 
Mae'r gwenyn Melipona yn nythu mewn cangen wag

Mae Leydy Pech yn ymwneud yn bennaf â chadw gwenyn, gan gadw amrywiaeth o wenyn nad ydynt yn colio (neu bigo) o'r enw Melipona beecheii, gwaith sy'n rhan o ddiwylliant traddodiadol y Maya, mewn sawl cymuned ers canrifoedd.[1][2][3]

Mae Melipona beecheii yn creu eu cychod y tu mewn i foncyffion gwag. Er bod yn well gan y mwyafrif o wenynwyr ddefnyddio'r rhywogaeth Apis mellifera, mae Pech a'i chymuned yn defnyddio M. beecheii mewn ymdrech i ddiogelu'r traddodiad o ddefnyddio amrywiaeth melipona a elwir yn lleol yn Xunaan Kab ("Arglwyddes y Mêl").

Mae gan Pech ddwy hectar o dir lle mae'n magu'r gwenyn, yn y modd traddodiadol. Ceisia sefydliad Pech ddatblygu ymdeimlad o gymuned trwy weithio ar y cyd yn magu'r gwenyn a chasglu'r mêl. Mae hi'n ceisio efelychu cymuned gyfagos Ich Eq, lle mae teuluoedd yn gweithio gyda'i gilydd ac yn cefnogi ei gilydd.[4]

Gweithgaredd amgylcheddol

golygu

Daeth Pech yn rhan o actifiaeth amgylcheddol yn 2000, ar yr un pryd ag y dechreuodd Monsanto drin ffa soia trawsenynnol yn Campeche Parhaodd ei gwaith i gynyddu, ac erbyn 2012 roedd busnes amaethyddol yn digwydd ar raddfa llawer mwy. Effeithiodd y defnydd cynyddol o ffa soia trawsenynnol yn negyddol ar gynhyrchu mêl, gan leihau cynnyrch a halogi'r mêl. Roedd y gostyngiad hwn yn peryglu cymunedau Maya lleol yn uniongyrchol, gan mai cadw gwenyn oedd eu prif ffordd o roi bwyd ar y bwrdd.[1]

Am y rheswm hwn, sefydlodd Pech glymblaid Muuch Kambal a Colectivo Apícola de los Chenes, dau grŵp a aeth â'r llywodraeth i'r llys er mwyn atal tyfu’r math hwn o gnwd trawsenynnol. Yn 2015, dyfarnodd Goruchaf Lys Mecsico bod yn rhaid ymgynghori â chymunedau brodorol cyn tyfu unrhyw gnydau trawsenynnol. Yn 2017, cafodd caniatâd Monsanto i dyfu hadau a addaswyd yn enetig ei ddirymu yn Campeche, Yucatan, a phum talaith arall ym Mecsico.[1][2]

Oherwydd ei hymgyrchu a llwyddiant ei chymuned, derbyniodd Pech Wobr Amgylcheddol Goldman yn 2020, gwobr sy'n cael ei hystyried yn Nobel amgylcheddol, rhyngwladol. Nododd y sefydliad a gyflwynodd y wobr fod Monsanto a'i gyfreithwyr yn gwahaniaethu yn erbyn Pech.[5] Yn ôl Pech, mae'r wobr "yn cynrychioli cydnabyddiaeth o waith cymunedau Maya y Chenes (rhanbarth o Campeche) ac o undod tiriogaeth y Maya."

Cyfeiriadau

golygu
  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 Rodríguez, Darinka (30 Tachwedd 2020). "Leydy Pech, la apicultora indígena que detuvo la siembra de soya transgénica de Monsanto" [Leydy Pech, the indigenous beekeeper who stopped Monsanto's GM soy planting]. Verne (yn Sbaeneg). Cyrchwyd 19 April 2021.
  2. 2.0 2.1 2.2 Pastrana, Daniela (6 December 2020). "Los pueblos indígenas tenemos una forma distinta de mirar el desarrollo" [Indigenous peoples have a different way of looking at development]. Pie de Página (yn Sbaeneg). Cyrchwyd 19 April 2021.
  3. 3.0 3.1 "México: esto sucede cuando se tumba selva en el territorio maya" [Mexico: this is what happens when the jungle falls in Mayan territory]. Animal Político (yn Sbaeneg). 28 Tachwedd 2020. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2021-04-19. Cyrchwyd 2021-04-27.
  4. 4.0 4.1 Pérez Salazar, Juan Carlos (31 Gorffennaf 2014). "Los indígenas mexicanos que le ganaron una batalla al gigante Monsanto". BBC News Mundo. Cyrchwyd 19 April 2021.
  5. 5.0 5.1 Mandalia, Bhavi. "Leydy Pech: the queen bee of a Mayan hive against Monsanto's GMOs in Mexico". Pledge Times. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2021-04-19. Cyrchwyd 19 April 2021.
  6. "Leydy Pech". Goldman Environmental Foundation. Cyrchwyd 19 April 2021.
  7. Quintanilla Sangüeza, Quintanilla Sangüeza (10 December 2018). "Leydy Pech, the guardian of the bees". Interamerican Association for Environmental Defense. Cyrchwyd 19 April 2021.
  8. "Premio Goldman, resultado del trabajo colectivo comunitario en defensa del territorio y el ambiente sano en la región de los Chenes, Campeche" [Goldman Prize, result of collective community work in defense of the territory and a healthy environment in the Chenes region, Campeche]. indignacion.org.mx (yn Sbaeneg). 30 Tachwedd 2020. Cyrchwyd 19 April 2021.
  9. "Leydy Pech, la "guardiana de las abejas" contra los transgénicos" [Leydy Pech, the bee keeper against GMOs]. ABC. 9 December 2020. Cyrchwyd 19 April 2021.
  10. ""Hoy es un día histórico para el pueblo maya": Leydy Pech al recibir el premio de Fundación Goldman". Aristegui Noticias. 1 December 2020. Cyrchwyd 19 April 2021.