Bardd o Tsieina oedd Li Bai neu Li Po (701 - 762). Ystyrir ef gan lawer o feirniaid yn un o ddau brif fardd Tsieina, gyda Du Fu. Cadwyd tua 1,100 o'i gerddi.

Li Bai
Ganwyd李白 Edit this on Wikidata
19 Mai 701 Edit this on Wikidata
Suyab, Jiangyou Edit this on Wikidata
Bu farw30 Tachwedd 762 Edit this on Wikidata
o boddi Edit this on Wikidata
Sir Dangtu Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBrenhinllin Tang Edit this on Wikidata
Galwedigaethbardd, awdur geiriau, caligraffydd, ysgrifennwr Edit this on Wikidata
Adnabyddus amQ10842233, Quiet Night Thought the bully, Q10823450 Edit this on Wikidata
Cartre'r teuluRencheng Edit this on Wikidata
TadLi Ke Edit this on Wikidata
LlinachLi clan of Longxi Edit this on Wikidata

Cyfieithwyd ei gerddi i iaith orllewinol am y tro cyntaf yn 1862 pan gyhoeddodd y Marquis d'Hervey de Saint-Denys ei Poésies de l'Époque des Thang. Nodweddir ei farddoniaeth gan ddelweddau o grefydd Taoaeth.

Yn ôl nifer o haneswyr, roedd Li Bai o gefndir Twrcig, o un o lwythau y Xiongnu. Efallai iddo gael ei eni yn Suyab yng Nghanolbarth Asia. Roedd yn bur gyfoethog, a threuliodd y rhan fwyaf o'i fywyd yn teithio, gan farddoni ac yfed. Dywedir iddo foddi yn Afon Yangtze, wedi disgyn o'i gwch tra'n ceisio cofleidio adlewyrchiad y lleuad yn y dŵr pan oedd yn feddw.

Dyma un o gerddi mwyaf adnabyddus Li Bai:

静 夜 思

床前明月光

疑是地上霜

举头望明月

低头思故乡

Dyma'r fersiwn "pinyin"

jìng yè sī

chuáng qián míng yuè guāng,

yí shì dì shàng shuāng,

jŭ tóu wàng míng yuè,

dī tóu sī gù xiāng.

Dyma fras drosiad i'r Gymraeg (noder nad oes goddrych pendant i'r gerdd):

Meddyliau noson dawel

O flaen y gwely y mae lloergan llachar,

Medrai fod yn farrug ar y tir,

Codi pen ac edrych ar y lleuad lachar,

Gostwng pen a meddwl am yr hen gartref.

Dylanwad ar gerddoriaeth golygu

Cyhoeddwyd cyfieithiadau i'r Almaeneg o nifer o gerddi Li Bai gan Hans Bethge ym 1907. Un o'r rhai a'u darllenodd oedd Gustav Mahler, a'u defnyddiodd yn ei gampwaith Das Lied von der Erde, ynghyd â cherddi gan Qian Qi, Meng Haoran a Wang Wei.

Defnyddir rhai o'i gerddi yn y traddodiad shigin yn Japan.

Yn Gymraeg, mae albwm The Gentle Good, y Bardd Anfarwol, wedi'i hysbrydoli gan Li Bai drwyddi draw[1].

  1. Chitty, Richard (2020-01-18). "Y Bardd Anfarwol | The Gentle Good". Cyrchwyd 2021-04-10.