Lifft Clogwyn Saltburn
rheilfford ffwniciwlar yng Ngogledd Swydd Efrog
Rheilffordd ffwniciwlar yn Saltburn-by-the-Sea, Gogledd Swydd Efrog, Gogledd-ddwyrain Lloegr, ydy Lifft Clogwyn Saltburn (Saesneg: Saltburn Cliff Lift). Mae'n rhoi mynediad o'r dref, sy'n sefyll ar ben clogwyni, i Bier Saltburn a glan y môr. Dyma'r lifft clogwyn hynaf yn y Deyrnas Unedig sy'n cael ei bweru gan ddŵr.
Math | Water-powered funicular railway |
---|---|
Ardal weinyddol | Saltburn-by-the-Sea |
Agoriad swyddogol | 28 Mehefin 1884 |
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Sir | Gogledd Swydd Efrog (Sir seremonïol) |
Gwlad | Lloegr |
Cyfesurynnau | 54.5862°N 0.9707°W |
Rheolir gan | Bwrdeistref Redcar a Cleveland |
Fe'i hadeiladwyd rhwng 1883 a 1884. Mae ganddo uchder o 120 troedfedd (37 m) a hyd trac o 207 troedfedd (63 m), gan arwain at inclein 71 y cant rhwng dwy orsaf. Mae pâr o gerbydiau sy'n dal 12 o bobl, pob un â thanc dŵr 240 galwyn (1,100 L), yn rhedeg ar gledrau mesur safonol; trwy dynnu neu ychwanegu'r dŵr at eu tanciau, mae braciwr ar y brig yn rheoli symudiad y cerbydau.
-
Gorsaf isaf y rheilffordd
-
Cerbyd ar y brig yn aros i ddisgyn. Mae braciwr yn sefyll ar y chwith.
-
Y ddau gerbyd yn esgyn ac yn disgyn