Bwrdeistref Redcar a Cleveland
Awdurdod unedol yn sir seremonïol Gogledd Swydd Efrog, Gogledd-ddwyrain Lloegr, yw Bwrdeistref Redcar a Cleveland (Saesneg: Borough of Redcar and Cleveland). Mae'r awdurdod unedol yn rhan o Awdurdod Cyfun Cwm Tees, gyda Bwrdeistrefi Darlington, Hartlepool, Middlesbrough, a Stockton-on-Tees.
Math | ardal awdurdod unedol yn Lloegr, bwrdeisdref |
---|---|
Prifddinas | Redcar |
Poblogaeth | 136,531 |
Sefydlwyd | |
Gefeilldref/i | Troisdorf |
Daearyddiaeth | |
Sir | Gogledd Swydd Efrog (Siroedd seremonïol) |
Gwlad | Lloegr |
Arwynebedd | 244.8202 km² |
Cyfesurynnau | 54.5792°N 1.0341°W |
Cod SYG | E06000003 |
GB-RCC | |
Gwleidyddiaeth | |
Corff deddfwriaethol | council of Redcar and Cleveland Borough Council |
Mae gan yr awdurdod unedol arwynebedd o 245 km², gyda 137,150 o boblogaeth yn ôl amcangyfrif cyfrifiad 2019.[1] Mae'n ffinio ar Fwrdeistref Scarborough i'r de-ddwyrain, Ardal Hambleton i'r de-orllewin, Bwrdeistrefi Middlesbrough a Stockton-on-Tees i'r gorllewin, a Bwrdeistref Hartlepool i'r gogledd-orllewin. Mae Môr y Gogledd yn gorwedd i'r gogledd o'r fwrdeistref.
Ffurfiwyd yr ardal dan Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, ar 1 Ebrill 1974, fel bwrdeistref Langbaurgh, un o'r pedair ardal yn sir an-fetropolitan Cleveland. Ailenwyd yr ardal yn Langbaurgh-on-Tees ar 1 Ionawr 1988. Diddymwyd sir Cleveland ar 1 Ebrill 1996, a daeth Langbaurgh-on-Tees yn awdurdod unedol yn sir seremonïol Gogledd Swydd Efrog, gyda'r enw newydd Redcar a Cleveland.
Mae'r trefi mwyaf yn y fwrdeistref yn Redcar, Saltburn-by-the-Sea, a Guisborough, a mae'r fwrdeistref hefyd yn cynnwys trefi llai fel Brotton, Skelton-in-Cleveland a Loftus, yn ogystal â maestrefi dwyreiniol Middlesbrough fel Eston a South Bank. Mae rhan o arfordir Môr y Gogledd yn gorwedd yn y fwrdeistref, a mae'n cynnwys glan ddeheuol aber y Tees. Mae'r ran ogleddol o Barc Cenedlaethol Gweunydd Gogledd Swydd Efrog hefyd yn gorwedd yn rhannau deheuol y fwrdeistref.
Mae'r enw Cleveland yn dod o cliff + land, sy'n golygu "gwlad y clogau". Mae hyn yn cyfeirio at ymyl ogleddol Gweunydd Gogledd Swydd Efrog, sy'n codi yn ne'r ardal.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ City Population; adalwyd 7 Hydref 2020