Lilith yw diafoles y nos yn y traddodiadau Iddewig a Mesopotamiaidd.

Lilith
Enghraifft o'r canlynolcymeriadau chwedlonol, demon Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Lilith a'r Sarff (gan John Collier)
Y dduwies Lilitu (efallai) - cerfiad o Fesopotamia (tua 1950 CC)

Yr Hen Destament golygu

Cyfeirir ati yn yr Hen Destament. Yn Llyfr y Proffwyd Eseia dywedir ei bod yn cadw cwmni "anifeiliaid gwylltion yr anialwch, a'r cathod... yr ŵyll a orffwys yno hefyd, ac a gaiff orffwysfa iddi" (Eseia 34:14).[1] Math o dylluan yw ŵyll (screech-owl a geir yn y cyfieithiad Saesneg o'r Hen Destament). Cyfieithiaid ydyw o'r gair Hebraeg lilith.

Mesopotamia golygu

Credir bod y gair Lilith yn tarddu o'r gair Semitaidd lil sy'n golygu naill ai "nos" neu "ystorm, tymhestl, gwynt nerthol". Ceir duwies o'r enw Lilitu ym mytholeg Babilonia a gysylltir â thylluanod yn chwedl Gilgamesh. Yn llên gwerin ddiweddarach Babilonia a'r Dwyrain Canol mae Lilith (dan sawl enw cyffelyb) yn fath o swcwbws sy'n ymweld â dynion yn eu cwsg ac yn peri iddynt gael breuddwydion rhywiol. Mae hi'n aflonyddu plant yn ogystal ac yn medru peri afiechydon.

Y traddodiad Iddewig golygu

Yn ôl traddodiad y Talmwd Lilith oedd gwraig gyntaf Adda cyn i Efa gael ei chreu ar ei gyfer. Roedd hi'n bur wahanol i Efa. Gwrthodai ei orchmynion a hi oedd yn cymryd y blaen yn eu hanturiaethau carwriaethol. Roedd hi'n gwrthod gorwedd dan Adda wrth gael cyfathrach â fo, er enghraifft. Roedd hi'n nwydwyllt, annibynnol ei hysbrys a llawer mwy gwybodus nac Adda. Cwynodd Adda i Dduw ac mewn canlyniad bu rhaid i Lilith adael gardd Eden a chreuwyd Efa i gymryd ei lle. Hyd at gymharol ddiweddar roedd Iddewon yn arfer rhoi amiwlets i'w plant bach i'w gwarchod rhag Lilith yn eu cwsg.

Darllen pellach golygu

Mae gan T. H. Parry-Williams ysgrif o'r enw "Lilith" yn ei gyfrol O'r Pedwar Gwynt (1944).

Cyfeiriadau golygu

  1. Judit M. Blair De-Demonising the Old Testament - An Investigation of Azazel, Lilith, Deber, Qeteb and Reshef in the Hebrew Bible. Forschungen zum Alten Testament 2 Reihe, Mohr Siebeck 2009 ISBN 3-16-150131-4

Dolenni allanol golygu