Linn Ullmann

actores a aned yn 1966

Awdures o Norwy yw Linn Ullmann (ganwyd 9 Awst 1966) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel actor, newyddiadurwr ac fel beirniad llenyddol. Hyd at 2019 roedd wedi ysgrifennu 6 nofel.

Linn Ullmann
Ganwyd9 Awst 1966 Edit this on Wikidata
Oslo Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Norwy Norwy
Alma mater
Galwedigaethactor, ysgrifennwr, newyddiadurwr, beirniad llenyddol Edit this on Wikidata
TadIngmar Bergman Edit this on Wikidata
MamLiv Ullmann Edit this on Wikidata
PriodNiels Fredrik Dahl Edit this on Wikidata
PerthnasauLena Bergman Edit this on Wikidata
Gwobr/auGwobr Amalie Skram, Gwobr y Darllenydd Norwyaidd, Yr Ysgrifbin Aur, Gwobr Dobloug, Gwobr llenyddiaeth gwrandawr Norwy P2 Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://linnullmann.no Edit this on Wikidata

Fe'i ganed yn Oslo ar 9 Awst 1966. Wedi gadael yr ysgol mynychodd Brifysgol Efrog Newydd, Ysgol Juilliard, Efrog Newydd. Priododd Niels Fredrik Dahl.[1][2][3][4][5][6]

Magwraeth golygu

Ganwyd Ullmann yn Oslo, Norwy i'r actores, awdur a chyfarwyddwr Liv Ullmann; ei thad oedd y sgriptiwr Ingmar Bergman, a oedd hefyd yn gynhyrchydd. Cafodd ei magu yn Ninas Efrog Newydd ac yn Oslo.[7] [8]

Mynychodd Ullmann y Professional Children's School ym Manhattan. Pan oedd hi'n bymtheg oed, cafodd ei chicio allan o Gwmni Opera Cenedlaethol Norwy a Ballet; ni wyddys pam. Mynychodd Ysgol Juilliard fel darpar ddawnsiwr a graddiodd o Brifysgol Efrog Newydd lle astudiodd lenyddiaeth Saesneg a dechreuodd weithio ar ei Ph.D.[9][10][11]

Y llenor golygu

Pan gyhoeddwyd ei nofel gyntaf Before You Sleep ym 1998, roedd eisoes yn adnabyddus fel beirniad llenyddol dylanwadol. Cyhoeddwyd ei hail nofel, Stella Descending yn 2001 a chyhoeddwyd ei thrydydd nofel Grace yn 2002. Derbyniodd Grace, derbyniodd Ullmann "Wobr y Darllenwyr" yn Norwy, a chafodd Grace ei henwi yn un o'r deg nofel gorau'r flwyddyn honno gan y papur newydd Weekendavisen yn Nenmarc.

Gweithiau llenyddol golygu

  • Before You Sleep (Før du sovner) 1998
  • Stella Descending (Når jeg er hos deg) 2001
  • Grace (Nåde) 2002
  • A Blessed Child (Et Velsignet Barn) 2005
  • The Cold Song (Det dyrebare) 2011
  • De urolige (Unquiet). 2018

Anrhydeddau golygu

  • Dros y blynyddoedd, derbyniodd nifer o anrhydeddau, gan gynnwys: Gwobr Amalie Skram (2007), Gwobr y Darllenydd Norwyaidd, Yr Ysgrifbin Aur, Gwobr Dobloug (2017), Gwobr llenyddiaeth gwrandawr Norwy P2 (2015)[12] .


Cyfeiriadau golygu

  1. Cyffredinol: http://data.bnf.fr/ark:/12148/cb13530210x. ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015.
  2. Rhyw: Ffeil Awdurdodi Rhyngwladol. dyddiad cyrchiad: 4 Tachwedd 2018. Deutsche Nationalbibliothek; Staatsbibliothek zu Berlin; Bayerische Staatsbibliothek; Llyfrgell Genedlaethol Awstria (yn de), Gemeinsame Normdatei, Wikidata Q36578, https://gnd.network/, adalwyd 27 Ebrill 2014 http://data.bnf.fr/ark:/12148/cb13530210x. ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015. Darryl Roger Lundy (yn en), The Peerage, Wikidata Q21401824, http://thepeerage.com/
  3. Dyddiad geni: Gemeinsame Normdatei. dyddiad cyrchiad: 15 Hydref 2015. "Linn Ullmann". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Linn Ullmann". "Linn Ullmann". The Peerage. "Linn Ullmann". "Linn Ullmann". Cyrchwyd 9 Hydref 2017.
  4. Man geni: Deutsche Nationalbibliothek; Staatsbibliothek zu Berlin; Bayerische Staatsbibliothek; Llyfrgell Genedlaethol Awstria (yn de), Gemeinsame Normdatei, Wikidata Q36578, https://gnd.network/, adalwyd 13 Rhagfyr 2014
  5. Tad: Darryl Roger Lundy (yn en), The Peerage, Wikidata Q21401824, http://thepeerage.com/
  6. Mam: Darryl Roger Lundy (yn en), The Peerage, Wikidata Q21401824, http://thepeerage.com/
  7. "Linn Ullman". Penguin House. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-10-17. Cyrchwyd 13 Medi 2014.
  8. Anrhydeddau: "Doblougska priset". Academi Swedeg. 30 Mai 2017. Cyrchwyd 2 Medi 2017.
  9. "NOTABLE ALUMNI". Professional Children's School. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 6 Gorffennaf 2015. Cyrchwyd 13 Medi 2014. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  10. "Celeb Brats Can Be Model Kids, Too". People.com. 20 Mehefin 1983. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-03-04. Cyrchwyd 13 Medi 2014.
  11. "LINN ULLMANN". Unitedbooks.com. December 2012. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 21 Tachwedd 2014. Cyrchwyd 13 Medi 2014. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  12. "Doblougska priset". Academi Swedeg. 30 Mai 2017. Cyrchwyd 2 Medi 2017.