Lisa Jones

llenor

Arbenigwraig iaith ac awdur yw Lisa Jones.

Lisa Jones
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethysgrifennwr, ieithydd, athro Edit this on Wikidata

Mae Lisa wedi dysgu Cymraeg er mwyn rhoi'r iaith yn ôl i'w theulu. Astudiodd Lisa Almaeneg, Sbaeneg a Ffrangeg yn y coleg ac roedd hi'n byw yn yr Eidal am flwyddyn cyn dechrau dysgu Cymraeg. Ar ôl dysgu Cymraeg i Oedolion yng Ngholeg Gwent am dair blynedd dechreuodd hi redeg gwersi teilwredig i rieni. Mae Lisa nawr yn cyfuno gwaith achlysurol yn Llundain fel Hyffordwraig Cyswllt i Canning (yn dysgu Saesneg i bobl fusnes) â gwaith gwirfoddol i'w chymuned yn Aberhonddu, ble mae hi'n cynllunio a darparu gwersi Cymraeg sy'n cael eu teilwra ar gyfer rhieni ar y cyd gydag Ysgol y Bannau. Mae Lisa hefyd wedi defynuddio ei phrofiad o ddysgu ieithoedd gwahanol ei hun dros y blynyddoedd i ysgrifennu gwerslyfrau.[1]

Cyhoeddiadau golygu

Mae Jones wedi cyhoeddi nifer o gyfrolau gan gynnwys y canlynol;

  • Welsh for Parents - A Learner's Handbook (2015)
  • Welsh for Parents (2013)

Cyfeiriadau golygu

  1. "www.gwales.com - 1784610755". www.gwales.com. Cyrchwyd 2019-11-19.


Gwybodaeth o Gwales

Mae'r erthygl hon yn cynnwys testun o fywgraffiad yr awdur Lisa Jones ar wefan Gwales, sef gwefan gan Cyngor Llyfrau Cymru. Mae gan yr wybodaeth berthnasol drwydded agored CC BY-SA 4.0; gweler testun y drwydded am delerau ail-ddefnyddio'r gwaith.

  Eginyn erthygl sydd uchod am lenor neu awdur Cymreig. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.