Live 8

(Ailgyfeiriad o Live Eight)

Roedd Live 8 yn gyfres o gyngherddau codi arian a gynhaliwyd ar 2 Gorffennaf 2005 yng ngweledydd y G8 ac yn Ne Affrica. Cafodd y cyngherddau eu hamseru i gyd-fynd â Chynhadledd G8 a gynhaliwyd yng Ngwesty Gleneagles yn Auchterrarder, yr Alban o'r 6ed-8fed o Orffennaf 2005. Roedd y cyngherddau hefyd yn cyd-fynd ag ugain mlynedd ers ers Live Aid. Cafodd y cyngherddau eu cynnal er mwyn cefnogi'r ymgyrch Brydeinig Make Poverty History a'r Global Call for Action Against Poverty. Bwriad i sioeau oedd i roi pwysau ar arweinwyr y byd i waredu'r dyled sydd gan wledydd tlotaf y byd, i gynyddu a gwella'r cymorth a gynigir iddynt ac i negydu rheolau masnach deg er lles y gwledydd tlotaf. Cynhaliwyd deg cyngerdd wahanol ar yr un pryd ar yr 2il o Orffennaf ac un ar y 6ed o Orffennaf. Ar y 7fed o Orffennaf, cytunodd arweinwyr y G8 i ddyblu lefelau 2004 o gymorth i wledydd tlawd o $25 biliwn doler Americanaidd i $50 biliwn doler Americanaidd. Roedd hanner yr arian i fynd i Affrica.

Live 8
Enghraifft o'r canlynolbenefit concert Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu2005 Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.live8live.com/ Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Live 8 yn Rhufain

Perfformiodd dros 1,000 o gerddorion yn y cyngherddau a chafodd Live 8 ei ddarlledu ar 182 o rwydweithiau teledu ac ar 2,000 o rwydweithiau radio.

Cyhoeddodd trefnydd Live Aid a Band Aid Bob Geldof y digwyddiad ar Fai 31ain. Cynigiodd nifer o artistiaid a berfformiodd yn Live Aid eu gwasanaethau i'r achos.