Masnach deg
Mudiad cymdeithasol sy'n ceisio helpu ffermwyr a gweithwyr mewn gwledydd datblygol i gael prisiau teg am eu cynnyrch ac hyrwyddo cynaladwyedd ydy Masnach Deg. Mae'n ffocysu ar allforion celf a chrefft, coffi, siwgr, te, banana, mêl, cotwm, gwin[1], ffrwythau ffres, siocled, blodau ac aur.[2]
![]() | |
Enghraifft o'r canlynol | masnach, cangen economaidd, mudiad cymdeithasol ![]() |
---|---|
Math | masnach ![]() |
![]() |
Cymru - y genedl fasnach deg gyntaf golygu
Ar 11 Gorffennaf 2008 daeth Cymru'n 'Genedl Masnach Deg', pan lansiodd Llywodraeth Cymru ymgyrch i hyrwyddo’r defnydd o gynnyrch Masnach Deg. Ymhlith cefnogwyr yr ymgyrch hon roedd nifer o sefydliadau gan gynnwys Canolfan Cydweithredol Cymru, Oxfam Cymru, a Chanolfan Materion Rhyngwladol Cymru.[3] Flwyddyn cyn hynny roedd y Llywodraeth wedi Yn 2007, pasiodd Llywodraeth Cymru 'Fesur Masnach Deg Cenedl Cymru, a nododd ei hymrwymiad i hyrwyddo arferion Masnach Deg a chefnogi cynhyrchwyr Masnach Deg.
Yn 2019, cynhaliwyd y 13eg Cynhadledd Trefi Masnach Deg Rhyngwladol yng Nghaerdydd.
Gweler hefyd golygu
Cyfeiriadau golygu
- ↑ Moseley, W.G. 2008. “Fair Trade Wine: South Africa’s Post Apartheid Vineyards and the Global Economy.” Globalizations, 5(2):291-304.
- ↑ David Brough, "Briton finds ethical jewellery good as gold", Reuters Canada, 10 Ionawr 2008
- ↑ masnachdeg.cymru; adalwyd 11 Gorffennaf 2023.