Llŷr Titus
Nofelydd a dramodydd o Gymruyw Llŷr Titus (ganwyd 1992/1993). Yn 2023 enillodd wobr Llyfr y Flwyddyn am ei gyfrol Pridd, lle mae'n creu 'darlun cignoeth ond cyfareddol' o fywyd hen ŵr yng nghefn gwlad Llŷn.[1]
Llŷr Titus | |
---|---|
Ganwyd | 1990s Penrhyn Llŷn |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | llenor, dramodydd |
Gwlad chwaraeon | Cymru |
Bywyd cynnar ac addysg
golyguDaw Llŷr Titus Hughes o Frynmawr ger Sarn ym Mhenrhyn Llŷn. Cafodd ei addysg yn Ysgol Gynradd Edern, Ysgol Uwchradd Botwnnog ac yna yng Ngholeg Merion-Dwyfor. Yn 2014 graddiodd o Brifysgol Bangor[2] Aeth ymlaen i wneud cwrs Meistr ac yn 2020 roedd yn parhau gyda’i ymchwil ar gyfer doethuriaeth ym Mhrifysgol Bangor.[3]
Gwaith a gwobrau llenyddol
golyguEnillodd y Goron ym Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd Abertawe 2011 ac y flwyddyn ganlynol yn Eisteddfod yr Urdd Eryri enillodd y Fedal Ddrama.[4] Cyhoeddodd ei nofel gyntaf, Gwalia, yn 2015 (Gwasg Gomer) ac enillodd Wobr Tir Na N-Og 2016 (categori ysgol uwchradd).
Mae Llŷr hefyd yn ddramodydd, ac yn awdur Drych a gynhyrchwyd gan Gwmni'r Fran Wen yn 2015.[5] Mae'n un o olygyddion a sylfaenwyr cylchgrawn Y Stamp a Chyhoeddiadau'r Stamp.
Yn 2023 enillodd wobr Llyfr y Flwyddyn am ei gyfrol Pridd (Gwasg y Bwthyn), lle mae'n creu "darlun cignoeth ond cyfareddol" o fywyd hen ŵr yng nghefn gwlad Llŷn.[6] Yn ôl Megan Hunter ar ran y beirniaid mae'n nofel wreiddiol iawn, an ôl Savanna Jones, un arall o’r beirniaid, "Mae’n llwyddiannus yn y ffordd mae’n ein hannog i fynd ar antur gyda’r prif gymeriad ac i ymrwymo yn ei fyd wrth iddo garlamu drwy daith bywyd."
Cyfeiriadau
golygu- ↑ golwg.360.cymru; adalwyd 15 Gorffennaf 2023.
- ↑ Dramodydd talentog ifanc yn graddio. Prifysgol Bangor (10 Gorffennaf 2014). Adalwyd ar 20 Ionawr 2020.
- ↑ "Llŷr Titus - Authors". www.gomer.co.uk. Cyrchwyd 2020-01-10.
- ↑ Llyr yn cael Medal at Goron y llynedd – Stori Fideo. Golwg360 (6 Mehefin 2012). Adalwyd ar 20 Ionawr 2020.
- ↑ Crump, Eryl (2015-09-09). "Gritty drama by young playwright to open at Pwllheli". northwales. Cyrchwyd 2020-01-10.
- ↑ golwg.360.cymru; adalwyd 15 Gorffennaf 2023.