Cyhoeddiadau'r Stamp
Menter gyhoeddi annibynnol yw Cyhoeddiadau'r Stamp, a redir ochr-yn-ochr â chylchgrawn creadigol Y Stamp. Mae'r fenter yn cyhoeddi cyfrolau a phamffledi creadigol amrywiol.
Mae pamffledi o'r wasg wedi ennill Gwobr Michael Marks am Farddoniaeth yn yr Ieithoedd Celtaidd ddwywaith: moroedd/dŵr gan Morgan Owen yn 2019, a carthen denau gan Rhys Iorwerth yn 2020.[1][2] Yn 2020, enillodd Hwn ydy'r llais, tybad? gan Caryl Bryn gategori barddoniaeth Gwobr Llyfr y Flwyddyn.[3]
Yn ystod y pandemig COVID-19 yng ngwanwyn 2020, cyhoeddwyd ôl-gatalog cyfan Cyhoeddiadau'r Stamp fel cyfrolau digidol.
CyhoeddiadauGolygu
2020Golygu
- Gwrando - pamffled o gerddi gan Morwen Brosschot, Hydref 2020
- Dweud y Drefn pan nad oes Trefn: Blodeugerdd 2020 - gol. Grug Muse ac Iestyn Tyne; antholeg o farddoniaeth Gymraeg gyfoes, Medi 2020
- Lleisiau o'r Cymoedd - pamffled digidol o gerddi a rhyddiaith gan Morgan Owen, Nerys Bowen, Eluned Winney a Siôn Tomos Owen, Mai 2020
- Detholiad o Gerddi - pamffled digidol o gerddi gan Caryl Bryn, Osian Owen a Sara Borda Green, Ebrill 2020
2019Golygu
- Carthen Denau - pamffled o gerddi yn ymateb i waith Y Lle Celf yn Eisteddfod Sir Conwy 2019 gan Rhys Iorwerth, Rhagfyr 2019 (Enillydd Gwobr Michael Marks am Farddoniaeth yn yr Ieithoedd Celtaidd, 2020)
- Hen Bapur Newydd - pamffled o gelf gan Llinos Anwyl, Rhagfyr 2019
- Adra - drama gan Llŷr Titus, Tachwedd 2019
- Bedwen ar y lloer - cyfrol o gerddi gan Morgan Owen, Hydref 2019
- dim eto - pamffled o ddarnau celf gwrthodedig gan amryw artistiaid, wedi ei olygu gan Esyllt Lewis, Awst 2019
- moroedd/dŵr - pamffled o gerddi gan Morgan Owen, Gorffennaf 2019 (Enillydd Gwobr Michael Marks am Farddoniaeth yn yr Ieithoedd Celtaidd, 2019)
- Cywilydd - pamffled o gerddi buddugol Eisteddfod yr Urdd Caerdydd a'r Fro 2019 gan Iestyn Tyne, Mehefin 2019
- Mudo - pamffled o gerddi gan Cris Dafis, Mai 2019
- Hwn ydy'r llais, tybad? - cyfrol a CD o gerddi a rhyddiaith gan Caryl Bryn, Ebrill 2019 (Enillydd Categori Barddoniaeth Gwobr Llyfr y Flwyddyn 2020)
2018Golygu
- ar adain - cyfrol o gerddi gan Iestyn Tyne, Mehefin 2018
2017Golygu
- addunedau - cyfrol o gerddi gan Iestyn Tyne, Mawrth 2017
CyfeiriadauGolygu
- ↑ "Michael Marks Awards Winners 2019". Wordsworth Trust (yn Saesneg). Cyrchwyd 2020-02-12.[dolen marw]
- ↑ "Paul Muldoon wins £5,000 Michael Marks pamphlet award | Write Out Loud". www.writeoutloud.net (yn Saesneg). Cyrchwyd 2020-12-16.
- ↑ "Cyhoeddi rhestr fer Llyfr y Flwyddyn eleni". BBC Cymru Fyw. 2020-07-01. Cyrchwyd 2020-07-02.