Y Stamp
Cylchgrawn llenyddol Cymraeg yw Y Stamp sydd yn cyhoeddi'n wythnosol ar-lein yn ogystal â thri rhifyn print y flwyddyn. Sefydlwyd y wefan yn Rhagfyr 2016 gan Elan Grug Muse, Llŷr Titus, Miriam Elin Jones, ac Iestyn Tyne. Ym Mawrth 2017 datganwyd bydd cylchgrawn papur hefyd yn cael ei gyhoeddi.[1][2]
Enghraifft o'r canlynol | literary magazine |
---|---|
Iaith | Cymraeg |
Yn Ionawr 2019, cyhoeddwyd y byddai Esyllt Lewis yn ymuno â thim golygyddol Y Stamp yn dilyn ymadawiad un o'r sylfaenwyr, Miriam Elin Jones.[3]
Fis Tachwedd 2020, cyhoeddodd y golygyddion mai rhifyn nesaf y cylchgrawn, rhifyn Gwanwyn 2020-21, fyddai'r olaf, o leiaf am gyfnod. Cynigiwyd yr arian oedd yn weddill o goffrau'r Stamp i gyhoeddiad newydd tebyg fyddai'n 'fentrus, yn annibynnol o ran ysbryd ac yn gydweithredol ei natur'. Nodwyd y byddai Cyhoeddiadau'r Stamp yn parhau i gyhoeddi llyfrau a phamffledi yn y dyfodol.[4]
Cyhoeddi
golyguMaent yn cyhoeddi llyfrau a phamffledi drwy eu gwasg, Cyhoeddiadau'r Stamp.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Lansio cylchgrawn llenyddol newydd", Golwg360 (10 Mawrth 2017). Adalwyd ar 9 Chwefror 2018.
- ↑ "Lansiad rhifyn cyntaf Y Stamp - cylchgrawn llenyddol newydd", Y Cymro (10 Mawrth 2017). Adalwyd ar 9 Chwefror 2018.
- ↑ "Blwyddyn Newydd, Golygydd Newydd!". Cylchgrawn y Stamp. (16 Ionawr 2019). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-08-21. Cyrchwyd 2019-01-17. Check date values in:
|date=
(help) - ↑ "Y Stamp yn cyhoeddi mai rhifyn nesaf y cylchgrawn fydd yr olaf". Golwg360. 2020-11-10. Cyrchwyd 2021-01-08.